Prosiect i helpu i wella iechyd, addysg a lles plant yng Nghymru wedi’i lansio
5 Medi
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi lansio astudiaeth i helpu i lywio sut i wella iechyd, addysg a lles pob plentyn yng Nghymru.
Bydd yr astudiaeth Ganwyd yng Nghymru yn datblygu’r dystiolaeth i deuluoedd, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a llunwyr polisi o’r ffordd orau o gynorthwyo teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Holiadur Ar-lein
Gofynnir i famau sy’n disgwyl a’u partneriaid gwblhau holiadur ar-lein ynghylch eu hiechyd, eu lles a’u ffordd o fyw, a fydd yn cymryd tua 15 munud. Bydd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ynghylch cyflogaeth, profiadau o wasanaethau a dderbynnir, iechyd a lles a gwybodaeth gefndir arall fel oedran ac ethnigrwydd.
Cysylltu data i archwilio effaith cyflyrau iechyd
Bydd y tîm ymchwil yn cysylltu atebion cyfranogwyr yn ddienw â chofnodion iechyd ac addysg. Bydd cysylltu â chofnodion iechyd yn golygu y gall ymchwilwyr archwilio’r effaith y mae cyflyrau fel asthma neu epilepsi yn ei chael ar deuluoedd o feichiogrwydd i’r blynyddoedd cynnar a thu hwnt. Gall hyn helpu i hysbysu gwasanaethau, megis ysgolion a darparwyr gofal iechyd ynghylch pa gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen fwyaf ac sydd fwyaf buddiol.
Mae’r tîm yn arbennig o awyddus i glywed gan deuluoedd os oes gan un neu’r ddau riant gyflwr meddygol fel asthma, MS, arthritis, iselder neu glefyd y galon.
Dywedodd Charlotte Todd, Ymchwilydd Blynyddoedd Cynnar yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Rydym yn cysylltu â mamau beichiog a’u partneriaid ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil bwysig hon trwy gwblhau’r holiadur ar-lein byr. Gall gymryd rhan yn yr astudiaeth hon helpu i wella ein dealltwriaeth o effaith y ffordd yr ydym yn byw bywyd heddiw ar iechyd a hapusrwydd teuluoedd a helpu i gyfeirio cymorth a chefnogaeth i’r man lle mae eu hangen fwyaf.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Gall iechyd, lles a bywyd teuluol yn ystod beichiogrwydd ac ym mlwyddyn gyntaf bywyd effeithio ar iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Gall cefnogi iechyd mamol da a datblygiad cadarnhaol yn ystod y flwyddyn gyntaf osod y sylfeini i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.
“Gobeithiwn y bydd canlyniadau’r astudiaeth yn helpu i lywio ymyriadau, polisi ac arfer newydd yng Nghymru a fydd yn cefnogi iechyd, lles ac addysg plentyn tan ei fod yn oedolyn.”
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae gan ymchwil ran bwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r ddarpariaeth iechyd a gofal fwyaf buddiol o’r blynyddoedd cynnar hyd at fywyd diweddarach. Mae’r astudiaeth Ganwyd yng Nghymru yn gam a allweddol o ran deall y math o gymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a all wedyn helpu i lywio penderfyniadau am wasanaethau.”