Arglwyddes yn cynnig plât o gacennau i ferched eraill mewn parti

Prosiect ymchwil i bwysigrwydd y Gymraeg mewn cartrefi gofal

5 Mai

Mae Angharad Higgins, sy’n fyfyriwr PhD, wedi ei magu’n siarad Cymraeg ac ni allai ddychmygu ei bywyd hebddi. Wrth weithio mewn ysbyty lleol gwelodd hi’n uniongyrchol yr heriau o ddarparu gofal i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, a gwnaeth hynny iddi ystyried beth yw’r sefyllfa mewn cartrefi gofal.

Enw ei phrosiect ymchwil, rhan o’i PhD yw Hiraeth, sy’n cyfieithu’n ysfa ddofn am gyfnod neu le coll, yn enwedig cartref rhywun.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys holiadur ar-lein wedi’i lenwi gan gartrefi gofal yn ogystal â chyfres o gyfweliadau â phreswylwyr a’u teuluoedd ynghylch eu profiad o siarad Cymraeg, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wrth ymdopi â chyfyngiadau COVID-19.

Ymchwil gofal cymdeithasol

Dywedodd Angharad: “Rwy’n mynd i ddechrau fy ymchwil drwy fapio bywyd, sy’n cynnwys siarad â phreswylwyr cartrefi gofal am eu profiadau gyda’r Gymraeg. Byddaf yn gofyn sut, pryd a ble maen nhw wedi defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau, er enghraifft gyda’u rhieni, eu plant, yn y capel a pha mor aml y maen nhw’n ei defnyddio nawr. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae gallu siarad Cymraeg, neu beidio yn gwneud iddyn nhw deimlo.

“Mae astudiaethau blaenorol mewn gwledydd eraill wedi dangos bod unigrwydd a’r effaith ar eu hiechyd meddwl yn cynyddu i bobl mewn gofal nad ydyn nhw’n siarad eu hiaith gyntaf, felly roeddwn i eisiau gweld a yw’r profiad hwnnw yr un fath yma yng Nghymru.”

Ansawdd bywyd

Mae ymchwil yr un mor bwysig ar unrhyw oedran er mwyn parhau i wella bywydau. Dywedodd Angharad: “Nid oeddwn i’n gallu dychmygu treulio fy nyddiau olaf yn peidio â chynnwys y Gymraeg yn fy mywyd, mae’n rhan o bwy ydw i. Rwyf i eisiau deall mwy am yr effaith y mae siarad Cymraeg yn ei chael ar bobl a rhannu arferion gorau i helpu cartrefi gofal yng Nghymru i roi cymaint o urddas â phosibl a sicrhau ansawdd bywyd da ar unrhyw adeg mewn bywyd.”

Mae astudiaeth Hiraeth yn dal i chwilio am gartrefi gofal i gymryd rhan. Gallai hyn gynnwys sgwrs gychwynnol gyda thîm yr astudiaeth neu gael eich preswylwyr a’u teuluoedd i gymryd rhan.

Dywedodd Deborah Morgan, rheolwr ENRICH Cymru: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen i gartrefi gofal sy’n dymuno cymryd rhan mewn ymchwil. Mae’n dechrau gyda sgwrs gychwynnol a gallai arwain at y preswylwyr yn cymryd rhan mewn prosiect hyfryd, gan sgwrsio ag wyneb cyfeillgar newydd yn hel atgofion ynghylch sut y mae’r Gymraeg wedi chwarae rhan mor bwysig yn eu bywydau.

“Byddem ni wrth ein bodd yn cael cartrefi gofal ENRICH Cymru i gymryd rhan a gallwn eich helpu chi bob cam o’r ffordd, byddwn i’n eich annog chi i gysylltu ag Angharad a’r tîm.”

Beth mae’r Gymraeg yn ei olygu i ni?

Aeth Angharad ymlaen i ddweud: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar bobl hefyd. I rai, cyswllt â’r teulu fu eu cysylltiad â’r Gymraeg a heb allu siarad eu hiaith eu hunain, ys gwn i sut yr oedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo.

“Fel rhan o fy mharatoadau rwyf i wedi dechrau cael sgyrsiau a gwneud ymchwil rhagarweiniol ac wedi clywed gan bobl am sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg, i un fenyw canu emynau yn y Capel oedd hynny ac mae hi’n gweld ei eisiau yn fawr.

“Drwy wybod hyn a gwneud addasiadau bach gallai cartrefi gofal newid bywydau.

“Mae rhai cartrefi gofal yn gwneud pethau anhygoel ac yn gwneud newidiadau bach sy’n gwella bywydau pobl, a hoffwn i rannu’r rhain oherwydd os gallai’r ymchwil hon wella bywyd dim ond un person, yna rwy’n gwybod y bydd hi wedi bod yn werth chweil.

“Diolch!”

I gael mwy o wybodaeth am astudiaeth Hiraeth cysylltwch ag Angharad. Neu sgwrsiwch ag un o’n cydlynwyr ENRICH Cymru.