Ymchwilydd iechyd

£5.5m o gyllid i’r Ganolfan Ymchwil Treialon

Rhoddwyd grant gwerth £5.5m i’r Ganolfan Ymchwil Treialon i ddatblygu ymhellach ei hymchwil arloesol i ganser, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion.

Bydd y cyllid pum mlynedd – oddi wrth Ymchwil Canser y DU – yn caniatáu i feddygon a gwyddonwyr barhau i ymchwilio i driniaethau gwell a charedicach i gleifion, gan gynnwys meysydd arbenigol fel lewcemia myeloid acíwt (AML).

Seiliwyd y grant, a ddyfarnwyd fel rhan o broses gystadleuol DU-eang, ar waith blaenorol a wnaed trwy’r Ganolfan Ymchwil Treialon, a hefyd ar gynigion ymchwil y mae’r tîm mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru’n gallu eu cyflawni.

“O ganlyniad i’n hymchwil, rydyn ni wedi gweld trawsnewidiad yn y ffordd rydyn ni’n gallu trin AML. Rydyn ni wedi arloesi â chynlluniau sy’n golygu bod triniaethau gwahanol ar gael i gleifion ar gyfnodau gwahanol o’u taith lewcemia.”

“Rydyn ni nawr yn cyflwyno’r gwersi rydyn ni wedi’u dysgu ar gyfer triniaethau canser eraill i ganiatáu i therapïau newydd fod ar gael i gleifion ar bob cyfnod o’u taith canser,” meddai’r Athro Robert Hills, Arweinydd AML, Prifysgol Caerdydd (sy’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Treialon).


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 4, Mehefin 2018