Pwy a ŵyr nerth y pren?
Mae Radiyah, sy’n wyth oed, yn daer ei bod eisiau cael tyllu ei chlustiau, yn union fel llawer o ferched ei hoed. Ond yn achos Radiyah mae pethau ychydig yn fwy o her – pan gafodd ei geni, doedd ei chlust chwith heb dyfu’n llwyr.
Mae Radiyah nawr yn wynebu cyfres o lawdriniaethau fel bod llawfeddygon yn gallu adeiladu clust newydd sy’n edrych yr un fath â’i chlust dde.
Mae un o’r llawdriniaethau’n golygu cymryd rhan o gawell asennau Radiyah i’w ddefnyddio fel meinwe (cartilag). Mae’r weithdrefn hon yn gallu bod yn boenus ac mae hefyd yn debygol o adael craith.
Ond mae’n bosibl bod yna ffordd arall.
Mae’r Athro Iain Whitaker, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer llawfeddygaeth blastig, yn gweithio ar ddull newydd o weithredu a allai helpu Radiyah yn y dyfodol. Ei nod yw bio-argraffu clustiau trwy greu cartilag o fioddeunydd naturiol sydd i’w gael mewn rhisgl coed.
“Y prif rwystr i lawdriniaeth blastig ydy gwella ffurf a swyddogaeth ond bod arnon ni angen cymryd meinwe o rywle arall yn y corff,” meddai’r Athro Whitaker.
“Rydyn ni’n gwneud llawdriniaethau neis, yn cymryd darnau allan, yn cymryd canserau allan, yn gwneud i bethau edrych yn bertach ond mae yna bris i’w dalu am gymryd rhywbeth o rywle arall, fel poen a chreithio, a dyna pam fy mod i wastad wedi bod ar dân i geisio datrys y pos clinigol hwnnw.”
Yn labordy’r Athro Whitaker ym Mhrifysgol Abertawe, mae yna ddeoryddion sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd a dau beiriant bio-argraffu 3D.
Cofrestrwyr llawdriniaeth blastig academaidd ydy Zita Jessop a Tom Jovic, sy’n gweithio yn nhîm yr Athro Whitaker.
Yn hanfodol, maen nhw’n gwneud ‘inc’ i argraffu’r elfennau o wahanol siapiau sy’n ffurfio’r glust. Er mwyn gwneud hyn maen nhw’n cymysgu celloedd trwynol cleifion â’r deunydd rhisgl coed.
“Mae yna lawer o grwpiau ledled y byd yn defnyddio deunyddiau plastig ar gyfer eu bio-argraffu oherwydd ei bod hi’n haws o lawer ei argraffu,” meddai Tom.
“Ond rydyn ni wedi gweld, os ydy deunyddiau plastig yn cael eu rhoi i mewn i bobl, eu bod nhw’n aml yn deffro adwaith imiwn oherwydd ei fod yn ddeunydd estron.”
Mae’n rhaid i’r ‘inc’ fod o’r tewdra iawn i gael ei wthio trwy big yr argraffydd ond mae hefyd yn gorfod bod yn ddigon cryf i galedu’n solet a chadw’i siâp. Dyna lle rydyn ni’n gweld gwerth y deunydd rhisgl coed.
“Mae’n ddeunydd seliwlos felly mae’n hawdd i’w argraffu,” esboniodd Zita. “Mae’r priodoleddau mecanyddol cywir ganddo fel ei fod yn llifo’n dda wrth ichi ei wasgu, sy’n golygu nad ydy’r celloedd yn cael eu rhoi dan ormod o bwysedd.
“Yna, unwaith y mae’n cael ei argraffu rydyn ni’n chwistrellu deunydd arno i’w galedu; croesgysylltu ydy’r enw ar hyn. A’r hyn rydyn ni wedi’i ddangos ydy bod gan y deunydd rhisgl coed ffibrau o’i fewn sy’n dynwared colagen naturiol meinwe, yn benodol cartilag.”
“Bonws defnyddio deunydd naturiol fel yr un rydyn ni’n ei ddefnyddio ydy ein bod ni’n gwybod bod ganddo broffil imiwnogenig isel,” ychwanegodd Tom, “felly yn gyffredinol y gred ydy ei fod yn ddiogel a bod y system imiwnedd yn ei oddef yn dda.”
Mae Radiyah yn un o gleifion yr Athro Whitaker ac mae hi wedi bod yn mynychu apwyntiadau clinig yn rheolaidd am y pum mlynedd diwethaf.
“Rydyn ni wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty ac maen nhw wedi bod yn dangos cleifion i ni sydd wedi cael y llawdriniaeth lle roedd asen wedi’i thynnu i ffurfio clust,” meddai Rana, tad Radiyah.
Maen nhw wrthi’n penderfynu a fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’r weithdrefn draddodiadol neu’n aros i ymchwil yr Athro Whitaker gael ei chwblhau.
“Rydyn ni’n fodlon aros i weld a fydd y dechnoleg newydd yma ar gael yn y dyfodol,” meddai Rana. “Fe fydden ni’n hoffi i Radiyah gael y llawdriniaeth cyn iddi fynd i’r ysgol uwchradd fel nad ydy hi’n methu unrhyw wersi ond, os na fydd ar gael, fe fydd angen i ni aros ychydig bach yn hirach.”
Mae dau o gyrff llawdriniaeth blastig mwyaf blaenllaw’r byd – Cymdeithas America y Llawfeddygon Plastig (AAPS) a Chymdeithas Ewrop y Llawfeddygon Plastig (EURAPS) yn cefnogi ymchwil yr Athro Whitaker. Yn gynharach eleni, dyfarnwyd ysgoloriaeth academaidd AAPS/EURAPS iddo i lunio ymchwil gydweithredol gydag Ysbyty Cyffredinol Massachusetts ac Ysgol Feddygol Havard.
Fel rhan o’r cydweithredu, bydd yr ymchwil arloesol hon yn teithio o Abertawe i’r Unol Daleithiau fel y gellir ei rhoi ar brawf ar fodelau anifeiliaid. Y gobaith yw y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.
Er mai’r nod ydy bio-argraffu clustiau, gallai effaith lawn yr ymchwil hon fod yn fwy pellgyrhaeddol o lawer. “Dwi’n gobeithio y bydd yn rhoi opsiwn am driniaeth newydd i gleifion, sy’n golygu nad oes yn rhaid iddyn nhw gymryd darnau o rywle arall yn y corff gyda’r creithio amlwg, y boen a chyfnod o amser yn yr ysbyty,” meddai’r Athro Whitaker.
“Rydyn ni’n dechrau â chartilag ac adluniad wyneb ond fy ngobaith i ydy y byddwn ni’n symud ymlaen at wahanol fathau o feinwe a gwahanol ardaloedd o’r corff, a allai arwain at opsiynau adluniol newydd i gleifion â nam geni neu salwch neu glefyd, fel canser er enghraifft.”
O ran Radiyah, mae hi ychydig bach yn nerfus ynglŷn â chael llawdriniaeth, pryd bynnag fydd hynny, ond ar y cyfan mae hi’n edrych ymlaen ati.
“Dwi wir isio tyllu fy nghlustiau a chlymu fy ngwallt yn ôl,” meddai Radiyah.
Mae Radiyah hyd yn oed wedi dewis y math o glustdlysau y mae hi eisiau eu gwisgo. “Rhai diemwnt!”
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 7, Tachwedd 2019