RCBC Cymru Cymrodoriaethau PhD G

26 Awst

Mae’n bleser gan RCBC (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Cymru gyhoeddi cyllid ar gyfer Cymrodoriaethau PhD mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth, Fferylliaeth a Phroffesiynau Iechyd Cysylltiol i gychwyn Ionawr 2021. Gwahoddir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol cymwys am gymrodoriaethau a ariennir gan RCBCCymru a gyllidir drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd RCBCCymru yn ariannu PhD'au amser llawn am 3 blynedd. Dim ond yn ôl disgresiwn y brifysgol sy’n lletya caiff ceisiadau am astudiaeth ran amser (ddim llai na 3 diwrnod yr wythnos) eu hystyried.


Caiff cymrodyr eu goruchwylio gan ymchwilwyr profiadol a chael mynediad i hyfforddiant mewn dulliau ymchwil gyda’r brifysgol sy’n lletya. Un o amodau’r dyfarniad ydy bod pob Cymrawd yn dod yn aelod o Gymuned yr Ysgolorion (CoS) a mynychu dyddiadau astudio CoS. Bydd disgwyl i’r Cymrodyr gyflwyno eu hymchwil ar ddiwedd y cynllun mewn digwyddiad Cymuned yr Ysgolorion.


Dylai pob ymgeisydd ymrwymo i themâu a blaenoriaethau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r sefydliad y maen nhw’n gwneud cais iddo i gynorthwyo a datblygu ymchwil rhagorol sy’n cael effaith bositif ar iechyd, llesiant a ffyniant pobl yng Nghymru. 

Gallwch weld y cylch gwaith a'r gofynion cymhwystra ar gyfer pob un o'r cynlluniau hyn ar y dudalen Ein cynlluniau ariannu.