Pa ddatblygiadau arloesol sy’n helpu i recriwtio a chadw staff ambiwlans: crynodeb cyflym o dystiolaeth

Mae amseroedd aros am ambiwlansys ledled y DU wedi cynyddu mewn blynyddoedd diweddar, gyda thargedau perfformiad gwasanaeth brys yn cael eu methu. Mae’r rhesymau dros berfformiad sy’n gwaethygu’n cynnwys galw cynyddol, problemau â symud cleifion trwy’r system a materion yn ymwneud â’r gweithlu. Mae niferoedd y staff ambiwlans sy’n gadael gwasanaethau ledled y DU yn cynyddu bob blwyddyn, gyda’r problemau mwyaf acíwt â chadw staff yn effeithio ar barafeddygon. Mae strategaethau i helpu i recriwtio a chadw’r holl staff ambiwlans, gan gynnwys parafeddygon, yn bwysig, felly nod y crynodeb cyflym o dystiolaeth yw ymchwilio i’r datblygiadau arloesol sy’n gallu helpu i’w recriwtio a’u cadw.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00050