Beth yw effeithiolrwydd ymgynghoriadau o bell o’u cymharu ag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb mewn amgylcheddau cleifion allanol llawfeddygol gofal eilaidd?

Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn defnyddio ymgynghoriadau o bell a thelefeddygaeth dros y pandemig. Mae yna dystiolaeth bod dal yn well gan rai cleifion y ffordd hon o gyflenwi gofal a bydd arbed amser hefyd o bosibl yn galluogi ymgynghoriadau ychwanegol ac yn helpu i leihau rhestrau aros. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd ymgynghori o bell ar gyfer rhai arbenigeddau, fel llawdriniaeth, yn aneglur. Ein nod oedd ymchwilio i effeithiolrwydd ymgynghoriadau fideo neu ymgynghoriadau dros y ffôn, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeilliannau clinigol, deilliannau yn ôl cleifion a deilliannau o ran diogelwch, mewn gofal eilaidd cleifion allanol llawfeddygol a oedd yn oedolion yn ystod y pandemig COVID-19.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00032