Rheolwr Ymchwil - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae cyfle secondiad unigryw a chyffrous am gyfnod penodol wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi fel Rheolwr Ymchwil.

Bydd y rôl hon yn addas i unigolyn hunan-gymhellol sydd â sgiliau dadansoddol, cyfathrebu a datrys problemau cryf, y gallu i feddwl yn ochrol a gweithio heb fawr o oruchwyliaeth o ddydd i ddydd.

Bydd angen bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, y gallu i gael ei ysgogi, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn.

Bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:

  •  darparu cymorth rheoli gweithredol ar gyfer rhaglenni gwaith cenedlaethol.
  • datblygu perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y byd academaidd, Llywodraeth Cymru a lleoliadau clinigol.
  • gweithio gyda swyddfeydd Ymchwil a Datblygu'r GIG a'r Staff Cyflenwi i ddatblygu strategaethau a mentrau ymgysylltu lleol a fydd yn cyd-fynd ag arferion cyfredol i gymell gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gymryd rhan mewn ymchwil.
  • bod yn gyfrifol am nodi mentrau, capasiti ac adnoddau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a all gefnogi ymchwil, gan sicrhau bod y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi yn cydlynu'r ddarpariaeth o wasanaethau a mentrau ategol i gynyddu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Contract type: 2 flynedd (Secondiad / Cyfnod Penodol)
Hours: Llawn-amser - 37.5 awr yr wythnos
Salary: Gradd 7 £44,398 to £50,807 y flwyddyn
Lleoliad: Caerdydd
Job reference:
070-AC114-0824
Closing date: