Astudiaeth dulliau cymysg i ddatblygu a threialu Offeryn Asesu Cymhwysedd i gefnogi therapyddion yng ngofal cleifion sydd â thrawma ar y frest: Astudiaeth CATCh

Pam ydyn ni'n gwneud hyn?

Mae miloedd o gleifion yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn sydd ag anafiadau i'w frest, fel asennau wedi torri.  Mae therapyddion (ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol ac eraill) yn chwarae rhan bwysig yng ngofal y cleifion, ond nid ydynt bob amser yn gwybod pa sgiliau/gwybodaeth sy'n bwysig i gyflawni'r gofal gorau posibl. 

Mae rhestr wirio cymhwysedd yn ddull a ddefnyddir gan glinigwr i asesu ei sgiliau a'i wybodaeth ei hun, sydd yn ei dro yn sicrhau diogelwch ac ansawdd gofal. 

Yr hyn rydym yn gobeithio ei ddarganfod: 

Beth ddylid ei gynnwys yn y rhestr wirio cymwysedd, ac ar ôl ei ddatblygu, a yw therapyddion yn ei chael yn ddefnyddiol. 
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:

  1. Chwilio am yr holl waith sydd eisoes wedi'i wneud ar y pwnc hwn a'i grynhoi mewn un adroddiad. 
  2. Cynnal cyfarfodydd gyda chleifion, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill i gasglu gwybodaeth am y gofal, yn eu barn hwy, sy'n agweddau pwysig ar y gofal.  Bydd hyn yn helpu i gael dealltwriaeth o'r hyn y dylid ei gynnwys yn y rhestr wirio.  Bydd grŵp bach o therapyddion arbenigol yn datblygu'r rhestr wirio derfynol gan ddefnyddio'r wybodaeth a geir yng nghamau un a dau.  Bydd Partneriaid Ymchwil Cyhoeddus hefyd yn darllen y rhestr wirio derfynol i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr. 
  3. Yna gofynnir i 50 o therapyddion o bum ysbyty yng Nghymru ddefnyddio'r rhestr wirio i asesu eu sgiliau a'u gwybodaeth eu hunain.  Byddant hefyd yn cwblhau holiadur, gan ddweud wrthym a oeddent yn credu bod y rhestr wirio yn ddefnyddiol ai peidio. Bydd 15-20 therapydd yn cwblhau cyfweliad â ni, i roi gwybodaeth fanylach i ni am ba mor ddefnyddiol ai peidio oedd y rhestr wirio iddynt.

Sut mae'r partneriaid ymchwil cyhoeddus wedi cymryd rhan:

Mae ein tîm o gynrychiolwyr cleifion wedi bod yn rhan o'n tîm ymchwil ers blynyddoedd lawer.  Maent yn helpu gyda phob agwedd ar ddylunio a rheoli prosiectau.  Maen nhw'n rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i safbwynt y claf.  Mae un o'r partneriaid hyn (cyd-ymgeisydd Jane Barnett) wedi bod yn ymwneud yn helaeth â chynllunio'r astudiaeth hon ac mae wedi helpu i ysgrifennu'r cais. Bydd hi'n parhau i gefnogi a chynghori ar redeg yr astudiaeth hon.  Bydd dau bartner yn ymwneud ag adolygu'r offer casglu data (grŵp ffocws ac arolwg) a byddant hefyd yn adolygu trawsgrifiadau grwpiau ffocws cleifion ac yn cynorthwyo i ysgrifennu crynodebau lleyg a chymryd rhan mewn digwyddiadau lledaenu perthnasol.  Rydym wedi ymgysylltu â thîm amrywiol o gynrychiolwyr therapyddion, i'n helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn gynhwysol i bob therapydd, a allai fod ag anghenion ychwanegol. 

Sut y bydd ein canfyddiadau yn gwneud gwahaniaeth a sut y byddwn yn dweud wrth bobl am y canfyddiadau: 

Bydd y rhestr wirio yn arwain at well gofal therapi yng Nghymru i gleifion sydd ag anafiadau i'r frest. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer therapyddion a'r cyhoedd.  Byddwn yn cyhoeddi ein canlyniadau mewn cyfnodolyn ac yn eu cyflwyno mewn Cynadleddau Therapi

Gweithredol
Research lead
Professor Ceri Battle
Swm
£185,219
Statws
Yn weithredol
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2024
Dyddiad cau
30 Medi 2026
Gwobr
Cynllun Ariannu Integredig - Cangen 2: Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd
Cyfeirnod y Prosiect
01-HS-00037