Mesur effaith gwella'r ddarpariaeth gofal mewn sgrinio serfigol i fenywod yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol

Cwestiwn ymchwil:

Beth yw effaith gwella darpariaeth gofal sgrinio serfigol yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia i fenywod sydd wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol?   

Cefndir:

Mae amcangyfrifon yn adlewyrchu bod 1 o bob 4 merch yn profi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod ac mae 1 o bob 3 menyw yn profi trais rhywiol (Survivors Trust, 2022).  Mae menywod sydd wedi dioddef trais a cham-drin rhywiol yn cael profiadau gwael o fynychu apwyntiadau sgrinio serfigol o'i gymharu â menywod nad ydynt wedi profi trais a cham-drin rhywiol. Mae'r nifer sy'n derbyn sgrinio serfigol yn parhau i ostwng, gyda nifer o rwystrau ymarferol yn cael eu hadrodd (e.e. y pryder emosiynol a achoswyd), gyda rhwystrau ychwanegol yn cael eu hadrodd gan fenywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (Chorley et al, 2017). Rydym hefyd yn gwybod y risgiau o beidio â mynd i sgrinio serfigol, gyda chyfrifiadau yn nodi y gallai cynyddu'r ddarpariaeth sgrinio i 84% arbed £10 miliwn i'r GIG, gydag amcangyfrifon bod sgrinio serfigol yn arbed tua 5000 o fywydau'r flwyddyn yn y DU (Jo's Trust, 2017).  Mae hyn yn darparu cymhariaeth ddiddorol ag Awstralia, gwlad ar y trywydd iawn i ddileu canser serfigol (Hall et al. 2019).

Nodau ac Amcanion: 

Y nod yw archwilio defnyddiau a chyfyngiadau'r ddarpariaeth gofal sgrinio serfigol bresennol yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia ar gyfer menywod sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol, i lywio'r gwelliant i'r gwasanaeth hwn a mesur effaith y gwelliant hwn. Mae'r ffocws ar brofiadau amrywiol a chymharol menywod o ofal sgrinio serfigol ledled Cymru, Lloegr ac Awstralia.  Bydd y safleoedd ymchwil cymharol yn sicrhau amrywiadau ym mhrofiadau menywod, yn darparu lens ryngwladol a statws rhyngwladol ar gyfer y prosiect hwn.

Mae'r amcanion ymchwil yn canolbwyntio ar:-

  • Nodi natur y materion a brofir gan fenywod sydd wedi profi trais a cham-drin rhywiol, wrth gyrchu darpariaeth gofal sgrinio serfigol yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia.
  • Archwilio defnyddiau a chyfyngiadau'r ddarpariaeth gofal sgrinio serfigol bresennol.  
  • Hyrwyddo gwybodaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu darpariaeth gofal sgrinio serfigol i fenywod trwy ddatblygu model ymarfer a phecyn cymorth newydd.  
  • Mesur effaith cymhwyso'r model ymarfer newydd a'r pecyn cymorth trwy gynnal Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi.
Gweithredol
Research lead
Dr Ceryl Davies
Swm
£538,117
Statws
Yn weithredol
Dyddiad cychwyn
1 Medi 2024
Dyddiad cau
1 Rhagfyr 2030
Gwobr
Health and Care Research Wales/NIHR Fellowship
Cyfeirnod y Prosiect
HCRW NIHR FS(A)-2023a-CD