Jean Roberts

Rhaglen addysg i ofalwyr yn helpu i "bontio bwlch" bywyd ar ôl strôc

2 Mehefin

Gwahoddwyd gofalwyr pobl sydd wedi cael strôc i raglen addysg i ofalwyr er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth a magu eu hyder wrth ofalu am eu hanwyliaid – a’u hunain.

Mae effaith y rhaglen yn cael ei gwerthuso fel rhan o astudiaeth ymchwil wedi’i chefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

I nodi Wythnos Gofalwyr (9-15 Mehefin 2025), mae Craig Roberts, 75, o Ruthun, yn siarad am y gwahaniaeth y gwnaeth y sesiynau cymorth i’w fywyd ef a bywyd ei wraig, Jean, ar ôl iddi gael strôc ym mis Medi 2024.

Cynhaliwyd y sesiynau am chwe wythnos yn y Ganolfan Adsefydlu Strôc yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Fe’u cydluniwyd gan y tîm strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dan arweinyddiaeth therapydd strôc ymgynghorol ac aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Sushmita Mohapatra, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Strôc Cymru. Dywedodd Dr Mohapatra, 

Pan fydd pobl yn cael strôc, gall eu bywydau newid yn gyfan gwbl. Mae llawer i’w ddysgu a gall fod yn emosiynol iawn iddyn nhw ac i’w hanwyliaid. Gall pobl fod yn bryderus iawn am yr hyn nad ydyn nhw’n ei wybod, a dyna pam rwy’n angerddol am addysgu gofalwyr. 

“Mae pob strôc yn wahanol, sy’n ei gwneud hi’n anodd darparu rhaglen gymorth sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn. Roedden ni eisiau dod â chymorth amlddisgyblaethol ynghyd i gynnwys pob agwedd ar ofal, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol hanfodol a chefnogaeth hanfodol gan gymheiriaid, i wella ansawdd bywyd yr unigolyn sydd wedi goroesi strôc a’r gofalwr yn y pen draw.”

Cynhaliwyd sesiynau yn ystod oriau ymweld, gan ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o sut i helpu gyda symudedd corfforol, i gyngor ar ddeiet a ffordd o fyw, trosglwyddo gofal o’r ysbyty i’r cartref, a sut i helpu goroeswyr strôc a’u hunain yn emosiynol. 

Parhaodd Dr Mohapatra, “Rydyn ni’n gwybod mai un o’r heriau mwyaf i ofalwyr yw amser, felly roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod y sesiynau mor hygyrch â phosibl ac yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Cafodd y sesiynau eu harwain gan wahanol dimau, gan gynnwys ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd, nyrsys, dietegwyr a seicolegwyr. Arweiniodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Strôc Cymru sesiynau hefyd, gan roi sicrwydd a rhoi cyfle i ofalwyr gwrdd a siarad ag eraill yn yr un sefyllfa.”

Hyd yn hyn, mae 48 o ofalwyr wedi elwa ar y cwrs, gan gynnwys Craig, a ddywedodd ei fod yn amhrisiadwy i’w helpu ef a Jean, 76, i “bontio’r bwlch a symud ymlaen”.

Dywedodd Craig, “Cyn y strôc roedd iechyd Jean yn ardderchog, felly roedd yn sioc wirioneddol. Fe wnes i ddeffro i’w chlywed hi’n tapio ar y rheiddiadur am help. Roedd hi wedi cael strôc rywbryd yn oriau mân y bore ac wedi syrthio allan o’r gwely. Roedd hi’n ymwybodol ond ni allai siarad ac roedd ei hamrantau’n gwingo. Roedd yn frawychus, yn enwedig gan nad oedden ni’n gwybod yn union pa amser roedd wedi digwydd.”

Treuliodd Jean dair wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych, cyn cael ei throsglwyddo i’r Uned Adsefydlu Strôc, lle cysylltodd Dr Mohapatra â Craig ynglŷn â chymryd rhan yn y rhaglen i ofalwyr. Parhaodd Craig, 

Roedd y sesiynau yn wych. Roedd popeth mor ddefnyddiol a pherthnasol, ac roedd y staff yn gwbl ymroddedig ac yn deall beth oedd ei angen arnon ni. Roedd yn ddefnyddiol cwrdd â phobl eraill mewn sefyllfa debyg i ni a dysgu beth i’w ddisgwyl a sut i symud ymlaen. Nid oedd awr bob wythnos i’w gweld yn ddigon hir. 

“Mae gwella ar ôl strôc yn ymdrech tîm, gyda’r ochr feddygol a nyrsio a chleifion a pherthnasau agosaf i gyd yn gweithio gyda’i gilydd. Mae fy ngwraig yn benderfynol o roi ei gorau, ac fe fydda’ i’n cymryd rhan mewn unrhyw beth a phopeth i helpu gyda’i hadferiad. Roeddwn i’n hapus iawn i fod yn rhan o’r ymchwil a rhoi rhywbeth yn ôl i’r tîm meddygol am eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad.”

Cafodd Jean ei rhyddhau o’r uned ar ôl wyth wythnos ac mae wedi parhau i wella’n dda, rhywbeth y mae Craig yn ei briodoli i’r hyn a ddysgodd yn ystod y cwrs. 

“Ar ôl i Jean gael ei rhyddhau, roedd yn bryd i ni ddechrau symud ymlaen gyda bywyd, gan wneud y gorau o’r heriau gyda’r cymorth yr oedd y tîm yn yr uned wedi’i roi i ni. O fewn cwpl o ddiwrnodau o fod gartref, symudodd popeth ymlaen cam neu ddau. Roedd bod mewn amgylchedd cyfarwydd yn helpu’n fawr, ond ni allaf ddiolch digon i’r gwahanol staff na phwysleisio gormod pa mor bwysig oedd cael y gefnogaeth honno.”

Mae’r rhaglen wrthi’n cael ei gwerthuso ar hyn o bryd, ac mae Dr Mohapatra yn gobeithio y bydd yn cael ei hymestyn i groesawu mwy o ofalwyr ac i gyflwyno sesiynau a arweinir gan y gymuned yn y dyfodol.