Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA)
Mae’r Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA) yn ariannu ymchwil i effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd ac effaith ehangach triniaethau a phrofion gofal iechyd i’r rheiny sy’n cynllunio, yn darparu neu’n derbyn gofal oddi wrth y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae’r Rhaglen HTA yn cael ei hariannu gan NIHR gyda chyfraniadau penodol oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonwyr (CSO) yn yr Alban ac Is-adran Y&D HSC, yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.
Ymgymerir ag ymchwil HTA lle ceir rhywfaint o dystiolaeth yn barod i ddangos bod technoleg yn gallu bod yn effeithiol a bod angen cymharu hyn â’r ymyrraeth safonol bresennol i weld pa un sy’n gweithio orau.
Gall ymchwil werthuso unrhyw ymyrraeth a ddefnyddir wrth drin, atal neu wneud diagnosis o glefyd, cyn belled â bod deilliannau’r astudiaeth yn arwain at ddarganfyddiadau sydd â’r potensial i fod o fudd uniongyrchol i gleifion y GIG.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.