Sgyrsiau Creadigol

Rhaglen gelf yn rhoi sgiliau a hyder newydd i ofalwyr dementia

Mae ymchwil newydd wedi dod i’r casgliad bod gweithgareddau fel barddoniaeth, ffilm a cherddoriaeth yn gallu helpu staff cartrefi gofal i feddwl yn fwy creadigol wrth ofalu am breswylwyr â dementia.

Bu staff gofalu o 14 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint yn cymryd rhan mewn astudiaeth 18 mis – a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ymddiriedolaeth Wellcome – a oedd yn rhoi rhaglen datblygu staff wedi’i seilio ar y celfyddydau o’r enw Sgyrsiau Creadigol ar brawf.

Mae’r rhaglen yn defnyddio gweithgareddau creadigol i gynyddu ymwybyddiaeth o beth sy’n bosibl o fewn gofal dementia. Mae hefyd yn ceisio rhoi sgiliau cyfathrebu ymarferol i staff, y gallan nhw eu defnyddio i ddatblygu perthynas ofalgar â’r preswylwyr.

Gwelodd y staff a fu’n cymryd rhan yn yr astudiaeth fod y dull o fynd ati i ddysgu trwy’r celfyddydau wedi golygu eu bod nhw’n deall eu preswylwyr yn well, gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau. Roedd hefyd wedi rhoi hyder iddyn nhw fynd ati i roi cynnig ar ddulliau mwy creadigol o ofalu.

Meddai Dr Katherine Algar-Skaife, a oedd yn arwain yr ymchwil: “Mae’r celfyddydau’n cael eu cydnabod fwyfwy fel gweithgareddau pwysig a llesol i bobl sy’n byw â dementia.

“Rydyn ni wedi dangos yn y prosiect hwn bod dysgu trwy gyfrwng y celfyddydau hefyd yn gallu ychwanegu at sgiliau’r staff sy’n gofalu am ddioddefwyr dementia a’u galluogi nhw i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r preswylwyr y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.”

Cyflawnwyd y prosiect ymchwil mewn partneriaeth rhwng Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru Prifysgol Bangor (y grŵp ymchwil o Heneiddio a Dementia @ Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd), Dementia Positive, Ymgynghoriaeth TenFive Ten a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 6, Mehefin 2019