Rhaglen Gwerthuso Effeithlonrwydd a Mecanwaith (EME)
Mae’r Rhaglen Gwerthuso Effeithlonrwydd a Mecanwaith (EME) yn ariannu astudiaethau uchelgeisiol sy’n gwerthuso ymyriadau sydd â photensial i wneud newid sylweddol o ran hybu iechyd, trin clefydau a gwella adsefydlu neu ofal tymor hir. O fewn yr astudiaethau hyn, mae EME yn cefnogi ymchwil i fecanweithiau clefydau a thriniaethau.
Partneriaeth ydy EME rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), gyda chyfraniadau penodol oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonwyr (CSO) yn yr Alban ac Is-adran Y&D HSC, yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r Rhaglen EME yn cefnogi treialon clinigol yn bennaf, ac astudiaethau eraill cadarn eu dyluniad sy’n rhoi effeithiolrwydd ymyriadau ar brawf. Dylai’r ymyriadau fod â’r potensial i wella gofal y claf neu’r budd i’r cyhoedd. Dim ond astudiaethau lle y mae yna ddigon o dystiolaeth y gallai’r ymyrraeth weithio mewn pobl fydd y rhaglen yn eu cefnogi, h.y. bod yna brawf o gysyniad.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.