Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflenwi Iechyd (HS&DR)
Nod y Rhaglen Ymchwil Cyflenwi Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSDR) ydy cynhyrchu tystiolaeth drylwyr a pherthnasol i wella ansawdd, hygyrchedd a threfniant gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Rhaglen HSDR yn cael ei hariannu gan NIHR gyda chyfraniadau penodol oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonwyr (CSO) yn yr Alban ac Is-adran Y&D HSC, yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r rhaglen HSDR yn ariannu ymchwil werthusol sydd â’r potensial i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall ymchwil fod yn ymchwil sylfaenol (feintiol a/ neu ansoddol), yn ymchwil eilaidd ac yn ymchwil cyfuno tystiolaeth. Mae astudiaethau dulliau cymysg yn brosiectau nodweddiadol, gyda ffocws clir ar drefniant ac ansawdd gofal. Dylid cael ffocws hefyd ar brofiad cleifion, staff a defnyddwyr gwasanaeth. Bydd prosiectau yn aml yn cynnwys dadansoddi data a gesglir fel mater o drefn a data cysylltiol ar ddefnydd, gweithgarwch a deilliannau gwasanaethau. Ystyrir amrywiaeth o ddyluniadau astudio, ac mae enghreifftiau’n cynnwys:
- astudiaethau gweithredu mawr sy’n edrych ar ffurfweddiad strôc
- treialon pragmatig o offerynnau haenu risg
- gwerthuso hybiau eiddilwch cymhleth
- cyfuno tystiolaeth o ddulliau seiliedig ar gryfderau o weithredu wrth ymarfer gwaith cymdeithasol
- gwerthusiadau realaidd o rowndiau nyrsio bwriadol
- astudiaethau sefydliadol sy’n edrych ar lywodraethu effeithiol gan fwrdd
- ymchwil ethnograffig i brofiad cleifion mewnol â dementia mewn wardiau ysbyty
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.