Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus (PHR)

Mae Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus (PHR) yn ariannu ymchwil i gynhyrchu tystiolaeth i ddarparu sail ar gyfer cyflenwi ymyriadau y tu allan i’r GIG â’r bwriad o wella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd.

Mae’r Rhaglen PHR yn cael ei hariannu gan NIHR gyda chyfraniadau oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonwyr (CSO) yn yr Alban ac Is-adran Y&D HSC, yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Prif nod y rhaglen ydy gwerthuso ymyriadau ymarferol. Mae’r rhaglen yn ariannu ymchwil sylfaenol (gwerthusol yn bennaf, ond hefyd rhywfaint o ymchwil baratoadol) ac ymchwil eilaidd (cyfuno tystiolaeth); bydd angen i ddulliau penodol fod yn briodol i’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn a dichonoldeb yr ymchwil.

Mae’r cwmpas yn un amlddisgyblaeth ac yn eang, gan ddarparu gwybodaeth newydd am fuddion, costau, derbynioldeb ac effeithiau ehangach ymyriadau y tu allan i’r GIG â’r bwriad o wella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.