Rhaglen ymchwil iechyd fwyaf y DU yn lansio yng Nghymru
21 Medi
O 24 Medi, bydd Our Future Health, rhaglen ymchwil iechyd fwyaf y DU, yn agor clinigau ledled Cymru gan gynnig dros 70,000 o apwyntiadau yn ystod y flwyddyn nesaf.
Bydd y clinigau cyntaf yng Nghymru mewn siopau Boots ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam, a bydd tua 20 o glinigau yn agor ledled Cymru erbyn mis Medi 2025.
Nod Our Future Health yw trawsnewid atal, canfod a thrin cyflyrau fel dementia, canser, diabetes, clefyd y galon a strôc. Gyda hyd at bum miliwn o wirfoddolwyr ledled y DU, y nod yw creu un o’r darluniau mwyaf manwl erioed o iechyd pobl.
Yn ystod eu hapwyntiadau yn y clinig, yn ogystal â chael sampl gwaed a rhai mesuriadau corfforol wedi’u cymryd, bydd gwybodaeth am eu hiechyd eu hunain yn cael ei chynnig i wirfoddolwyr, gan gynnwys eu pwysedd gwaed a’u lefelau colesterol. Yn y dyfodol, bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cael dewis derbyn adborth am eu risg o rai clefydau a chael cyfle i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil arloesol.
Yr amcangyfrif yw y bydd cyfran oedolion yng Nghymru sy’n byw gyda salwch difrifol yn cynyddu o bron i 1 o bob 6 yn 2019 i bron 1 o bob 5 erbyn 2040. Byddai hyn yn golygu bod nifer y bobl sy’n byw gyda salwch difrifol yng Nghymru yn cynyddu i 556,000 erbyn 2040; cynnydd o 137,000 sy’n fwy na thraean.* Nod Our Future Health yw dysgu mwy am sut y mae modd atal, canfod a thrin clefydau yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn anfon gwahoddiadau at bobl sy’n byw ger y clinigau newydd. Gall unrhyw un dros 18 oed ymuno drwy gofrestru ar-lein yn ourfuturehealth.org.uk, llenwi holiadur iechyd ar-lein, ac archebu apwyntiad clinig byr.
Mae modd gweld lleoliadau clinigau Our Future Health ar fap rhyngweithiol yma.
Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth British Heart Foundation Cymru: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu clinigau cyntaf y rhaglen Our Future Health i Gymru. Bydd y cyfle i ddefnyddio data iechyd ar gyfer ymchwil yn ein helpu ni i ddeall clefyd y galon a chylchrediad y gwaed yn well, sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar tua 340,000 o bobl yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, gallai’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ein helpu ni i ddod o hyd i ffyrdd newydd o atal, canfod a brwydro yn erbyn y clefydau dinistriol hyn yn gynharach."
Dywedodd Dr Raghib Ali, Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Meddygol Our Future Health: "Mae Our Future Health yn rhaglen ar gyfer y DU gyfan ac felly rydyn ni’n falch iawn o lansio’r broses recriwtio yng Nghymru. Byddwn ni’n gwahodd pobl yng Nghymru i ymuno â’n rhaglen, gan roi’r cyfle iddyn nhw ddysgu mwy am eu hiechyd eu hunain a helpu i wella iechyd pawb yng Nghymru a lleihau anghydraddoldebau. Bydd ymchwilwyr yng Nghymru yn gallu gwneud cais hefyd i ddefnyddio ein hadnodd ni i wneud darganfyddiadau newydd am glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n her sylweddol yng Nghymru."
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r rhaglen Our Future Health i Gymru. Fel rhaglen ymchwil iechyd fwyaf erioed y DU, bydd yr ymchwil hon yn helpu ymchwilwyr i ddarganfod ffyrdd o atal, canfod a thrin clefydau yn gynharach gyda’r potensial o wella gofal iechyd a chanlyniadau i’r boblogaeth yng Nghymru a ledled y DU."
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe: "Rydyn ni’n croesawu’r newyddion bod clinigau erbyn hyn yn agor yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen arloesol hon. Yn ystod y pandemig fe wnaethon ni weld grym ymdrech ar y cyd i ddod o hyd i atebion i ymdrin â Covid-19. Mae Our Future Health yn symbylu’r un grym drwy ofyn i wirfoddolwyr ledled Cymru gymryd rhan, er mwyn deall amrywiaeth o gyflyrau iechyd yn well, a fydd yn arwain at atal, diagnosis cynharach a thriniaethau wedi’u targedu’n well".
Mae Our Future Health yn gweithio’n agos gyda grwpiau pwysig yn y system gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Rhwydweithiau Gofal Sylfaenol a byrddau iechyd. Byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â’r grwpiau hyn i’n helpu ni I lunio cyfeiriad y rhaglen.
Mae Our Future Health yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth er mwyn gwahodd oedolion ledled y DU i ymuno â’r rhaglen. Gall gwirfoddolwyr nad ydynt yn byw ger lleoliad lle mae apwyntiadau Our Future Health ar gael ar hyn o bryd ymuno nawr yn ourfuturehealth.org.uk a chael gwybod pan fydd lleoliadau apwyntiadau newydd ar gael. Mae llawer o bobl ledled Cymru eisoes wedi cofrestru a gallant nawr fynd i apwyntiad.
Bydd lleoliadau newydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Our Future Health a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae Our Future Health yn gydweithrediad uchelgeisiol rhwng y sector cyhoeddus, cwmnïau gwyddorau bywyd ac elusennau iechyd blaenllaw y DU, gan gynnwys: Action Against Age-related Macular Degeneration, Alzheimer’s Society, Asthma + Lung UK, Blood Cancer UK, Brain Tumour Research, Breast Cancer Now, British Heart Foundation, Cancer Research UK, DEBRA, Diabetes UK, Fight for Sight, Kidney Research UK, LifeArc, Macular Society, Pancreatic Cancer UK, Parkinson’s UK, Prostate Cancer Research, Prostate Cancer UK, Royal Osteoporosis Society, Stroke Association, a Versus Arthritis. Cafodd Our Future Health ei sefydlu gydag arian gan Accelerating Detection of Disease Challenge Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), wedi’i chyflawni gan Innovate UK.