Rhannwch eich barn ar weithio o bell mewn gweithgareddau cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae Prifysgol Lerpwl yn edrych am bobl 18 oed neu hŷn, sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd, i gymryd rhan mewn arolwg.
Mae’r arolwg yn eich gwahodd i rannu’ch barn ar gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol heb gyswllt wyneb yn wyneb.
Mae’r arolwg yn rhan o brosiect Gweithio o Bell wrth Gynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPIE) sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI. Ei nod yw ymchwilio i ffyrdd o gynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd o bell a gwella’r ffyrdd hyn ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallwch chi weld mwy am yr ymchwil ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).