Rhannwch eich profiadau o weithio a gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol
Mae angen cyfranogwyr ymchwil ar gyfer astudiaeth ymchwil newydd sy'n archwilio'r berthynas rhwng gwirfoddoli a gwaith cyflogedig mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os ydych chi:
• mewn rôl gyflogedig ac mae gennych chi brofiad blaenorol o wirfoddoli mewn gofal cymdeithasol yn y pum mlynedd diwethaf; neu
• yn gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol ar hyn o bryd
Hoffem i chi rannu eich profiadau mewn un cyfweliad ymchwil ar-lein nad yw'n fwy nag awr o hyd. Bydd hyn yn helpu i feithrin dealltwriaeth am fanteision gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol a'r llwybrau o wirfoddoli i yrfaoedd gofal cymdeithasol. Bydd pob cyfraniad yn cael ei adrodd yn ddienw.
Os hoffech chi gymryd rhan neu gael gwybod mwy, cysylltwch â Helen Timbrell, mae Helen yn aelod o'r tîm yng Nghanolfan Effeithiolrwydd Elusennau.
Dyddiad cau:
Lleoliad:
ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Brifysgol De Cymru