Rheolaeth Cynllun Ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal
Cynhelir gwahoddiad i dendro ar ran Llywodraeth Cymru i sefydlu contract ar gyfer Rheolaeth Cynllun Ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae’r fanyleb yn nodi’r gwasanaethau gofynnol ar gyfer contract pum mlynedd (gydag opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd) i weinyddu amrywiaeth o alwadau am gyllid ar gyfer prosiectau Iechyd a Gofal Cymru, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2023.
Nod y contract yw gweinyddu un Cynllun Ariannu Ymchwil integredig, gyda dwy gangen galwadau a arweinir gan ymchwilwyr a changen a gomisiynir o’r newydd, a dau gais, asesiad a phwyntiau dyfarniad ym mhob blwyddyn o’r contract.
Yn ogystal â hyn, gwahoddir ymgeiswyr i ddarparu costau am alwadau ad hoc ychwanegol a gomisiynir a allai gael eu cynnal ar sail ‘trefniant yn ôl y gofyn’. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weinyddu rheolaeth grant dyfarniadau byw yn ystod cyfnod y contract.
Dyddiad cau: 12:00 ar 3 Chwefror
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=DEC421697