Rheoli Cofnodion Hanfodol mewn Ymchwil: Gweithdy Ymarferol

Hyfforddwr y cwrs:

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Hyd y Cwrs: hanner diwrnod

Amlinelliad o’r Cwrs:

Mae systemau a dogfennau o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer cynnal treialon clinigol ac ymchwil arall. Mae'r cwrs hanner diwrnod hwn wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol a staff ymchwil (e.e. Swyddogion Ymchwil, Swyddogion Astudiaethau Clinigol, Nyrsys/Ymarferwyr Ymchwil a Gweinyddwyr) sy'n dymuno gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y prosesau rheoli treialon a chynnal a chadw cofnodion hanfodol.