Rheoli Dogfennau Hanfodol mewn Ymchwil
Amlinelliad o’r Cwrs:
Mae systemau a dogfennaeth o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer cynnal treialon clinigol a gwaith ymchwil arall. Mae’r cwrs e-ddysgu hwn wedi ei anelu at yr ymchwilwyr proffesiynol a staff (e.e. Swyddogion Ymchwil, Swyddogion Astudiaethau Clinigol, Nyrsys/Ymarferwyr Ymchwil a Gweinyddwyr) sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth brofi prosesau rheoli a chynnal dogfennaeth hanfodol.
Hyd y Cwrs
15 – 20 munud ar gyfer pob modiwl
Manylion y cwrs
Bydd y cwrs yn edrych ar y safonau Arfer Clinigol Da a llywodraethu ymchwil, cyfrifoldebau staff ymchwil o ran rheoli ffeiliau ar safle’r ymchwilydd, dogfennau hanfodol a systemau ansawdd.
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:
- Yn meddu ar fwy o wybodaeth am y safon ofynnol yn unol ag Arfer Clinigol Da ar gyfer rheoli dogfennau hanfodol yn adeiladau’r GIG
- Yn disgrifio cyfrifoldebau’r unigolyn a’r tîm
- Yn deall strwythur a diben ffeiliau safle’r treial a dogfennau hanfodol eraill
- Yn archwilio’r ffordd o reoli dogfennaeth hanfodol mewn gweithdy
Ardystiad CPD
Mae’r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD.
Pwyntiau CPD/1 awr
Mae’r wybodaeth, y cynnwys a’r deunyddiau sydd ar gael yn yr hyfforddiant hwn at ddibenion gwybodaeth gyffredinol. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfoes ac yn gywir, mae bob amser yn beth call gwirio’r canllawiau diweddaraf.
I ddechrau unrhyw un o'r modiwlau cliciwch y botwm modiwl cychwyn:
1. Rheoli ffeiliau safle
2. Casglu data
3. Cymeradwyaethau a sefydlu astudiaeth
4. Diwygiadau i astudiaeth a rheoli fersiynau
5. Cau astudio ac archifo
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r modiwlau hyn: