Rheolwr Prosiect Canolfan Genedlaethol - Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (NCSHSP)
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni wrth sefydlu’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed (NCSHSP) a ddyfarnwyd yn ddiweddar a llywio dyfodol lle mae ymchwil yn arwain at newid ystyrlon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm ymchwil ffyniannus sydd wedi sicrhau dros £40M mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf. Dan arweiniad yr Athro Ann John, mae gwaith ymchwil y tîm yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niwed ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Bydd yr NCSSHP, a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a'r Samariaid, yn trawsnewid atal hunanladdiad a hunan-niwed drwy drosi ymchwil arloesol yn effaith yn y byd go iawn. Gyda ffocws traws-lywodraethol a thraws-sector a pherthnasoedd sefydledig yn y sector hwn, bydd y Ganolfan yn ysgogi ymchwil arloesol, yn meithrin cydweithio ar draws disgyblaethau ac yn adeiladu gallu ymchwil i ddatblygu strategaethau ar sail tystiolaeth ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu a'r Gweinyddwr Prosiect i sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion o fewn yr amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt. Mae'r rôl hon yn galw am brofiad o reoli a chyflawni’n llwyddiannus ganolfan/brosiectau aml-bartner, yn ddelfrydol ym maes ymchwil iechyd meddwl. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ystod eang o dasgau rheoli prosiectau, gan gynnwys cydweithio’n agos â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar draws Cymru a thu hwnt.
SU00833