Advancing Healthcare Awards Cymru 2021

Rhestr fer Gwobrau Advancing Healthcare Cymru 2021 yn dathlu cyfraniad eithriadol at gyflenwi ymchwil

27 Hydref

Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd ledled Cymru sy'n cyflwyno ymchwil wedi cael eu cydnabod wrth i restr fer Gwobrau Advancing Healthcare (AHA) Cymru 2021 gael ei chyhoeddi.

Ceir cyfanswm o wyth categori i'w dyfarnu ar gyfer AHA Cymru 2021, gan gynnwys y Wobr am Gyfraniad Eithriadol i Gyflawni Ymchwil, a noddir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae tri thîm ac unigolyn eithriadol wedi cyrraedd y rhestr fer: Dr Zoe Fisher, Ymchwil Lymffoedema Cymru, a 'Deall Maeth a Statws Hydradu gan ddefnyddio Dadansoddeg Llesteiriant Biodrydanol' ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Bydd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn rhan o'r panel beirniadu i benderfynu ar yr enillydd.

Dywedodd: "Gwnaeth y ceisiadau cryf am y wobr hon argraff dda ar y beirniaid, llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

"Drwy'r Wobr am Gyflawni Ymchwil Eithriadol, byddwn yn cydnabod unigolyn neu dîm sydd wedi dangos cydweithio eithriadol ledled Cymru yn ogystal ag arweinyddiaeth wrth gyflwyno ymchwil sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar wella bywydau cleifion a'r cyhoedd."

Cyhoeddir enillwyr AHA Cymru 2021 mewn seremoni ar-lein ddydd Gwener 26 Tachwedd rhwng 3:00pm a 6:00pm.

Bydd hyn yn dilyn ‘Cynhadledd Cymru Gyfan’ ‘Cymru Iachach: Symud ymlaen gyda’n gilydd Gweithwyr Iechyd Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd, a gynhelir ar-lein y diwrnod cynt, ddydd Iau 25 Tachwedd.

Gallwch gofrestru i fynychu'r seremoni wobrwyo a'r gynhadledd ar-lein.

Rhestr fer y Wobr am Gyfraniad Eithriadol i Gyflawni Ymchwil:

Dr Zoe Fisher

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ymchwil Lymffoedema Cymru

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Deall Maeth a Statws Hydradu Gan ddefnyddio Dadansoddeg Llesteiriant Biodrydanol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o’r wyth categori o wobrwyon a'r ceisiadau ar y rhestr fer.