Judith Paget presenting an award at 2022 conference

Rhowch gynnig ar Wobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023

3 Awst

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023, a fydd yn dathlu cyflawniadau cymuned ymchwil Cymru dros y 12 mis diwethaf.

Mae Gwobrau 2023 yn agored i bob ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a thimau ymchwil cysylltiedig ehangach.

Y categorïau ar gyfer 2023 yw:

  • Gwobr Effaith – allwch chi ddangos sut mae eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
  • Gwobr Seren Ymchwil Addawol - a ydych yng nghyfnod cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol? Ydych chi'n gwneud cyfraniadau sylweddol i'ch maes? Ydych chi'n arweinydd newydd yn y dyfodol?
  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd - ydych chi wedi cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil mewn ffordd ystyrlon ac arloesol? A allwch fesur yn erbyn Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?
  • Gwobr Arloesedd mewn Ymarfer – categori newydd ar gyfer 2023; a allwch chi ddangos sut mae unigolion neu dimau ymchwil wedi cael effaith wrth ddatblygu, cyflenwi neu ledaenu/gweithredu ymchwil?

Enillwyr y llynedd

Roedd gwobrau’r llynedd yn cydnabod gwaith ar draws meysydd mor amrywiol ac arloesol â’r defnydd o ddata iechyd yn ystod pandemig COVID-19, cynnwys aelodau’r cyhoedd yn llwyddiannus wrth werthuso gwaith meddygon teulu mewn Adrannau Achosion Brys, dyfodol gofalwyr di-dâl, a’r cysylltiad rhwng cwsg ac iechyd meddwl.

Darllenwch fwy am enillwyr y llynedd yma.

A allem fod yn dathlu eich ymchwil chi yn 2023? 

Bydd yr enillwyr yn cael eu penderfynu gan banel o feirniaid a’u cyhoeddi’n fyw yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn Arena Abertawe ddydd Iau 12 Hydref 2023. Bydd enillydd pob categori yn cael cyllid o hyd at £250* i fynychu hyfforddiant cwrs, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'u set sgiliau ymchwil. (*Os yn bosibl, rhaid hawlio hwn o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol, erbyn 31 Mawrth 2024). 

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Thema ein cynhadledd eleni yw pobl yn gwneud ymchwil, ac mae’r gwobrau hyn yn wir yn gyfle gwych i gydnabod a gwobrwyo’r timau a’r unigolion y tu ôl i beth o'r ymchwil newid bywydau sy'n digwydd yng Nghymru.

"Bob blwyddyn mae ansawdd ac arloesedd yr ymchwil a gyflwynwyd wedi creu argraff ar y beirniaid a’u hysbrydoli. Rwy’n siŵr na fydd y flwyddyn hon yn ddim gwahanol, yn enwedig yn ein categori gwobr newydd sy’n dathlu Arloesedd ar Waith ar draws y broses astudiaeth ymchwil gyfan, o ddylunio i ledaenu.” 

I roi cynnig ar y gwobrau 

Darllenwch Ddogfen ganllawiau Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022  am fanylion llawn ar gymhwysedd a meini prawf i bob categori dyfarniad.

Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais berthnasol isod ac atodwch unrhyw gyfrwng ategol fel y nodir yn y ddogfen ganllaw

Dyddiad cau: 17:00 ar 20 Medi 2023

Anogir pob ymgeisydd i gofrestru a mynychu cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y gynhadledd