Rhwystrau a hwyluswyr ar gyfer magu ymddygiadau diogelu personol mewn amgylcheddau cyhoeddus

Beth sy’n atal pobl rhag ymddwyn mewn ffyrdd y dywedwyd wrthynt fydd yn eu diogelu rhag COVID-19 mewn mannau cyhoeddus?

Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar beth sy’n ei gwneud yn fwy neu’n llai tebygol y bydd pobl yn mabwysiadu cyngor i ddiogelu eu hunain, yn enwedig mewn lleoedd sy’n llawn pobl trwy:

  • Wisgo mygydau
  • Cadw pellter cymdeithasol
  • Defnyddio hylif diheintio dwylo sydd ar gael
  • Tisian neu besychu i mewn i’r penelin
  • Sicrhau bod yr aer yn llifo mewn mannau caeëdig

Mae’r ymchwil y buom yn ei hastudio’n dangos bod y bobl sy’n fwy tebygol o ddilyn y cyngor hwn yn bobl:

  • Sy’n hŷn
  • Sy’n fenywaidd
  • Sy’n fwy addysgedig
  • Sydd heb fod yn wyn
  • Sydd ar well cyflog
  • Sy’n ymddiried yn fwy yn y llywodraeth
  • Sy’n teimlo bod COVID-19 yn fwy o risg
  • Sy’n cael eu gwybodaeth o’r teledu, y radio a phapurau newydd
  • Sy’n teimlo’n fwy agored i niwed
  • Sy’n gryfach eu cred y bydd y mesurau hyn yn eu diogelu
  • Sydd yn fwy tueddol o boeni

Y bobl sy’n llai tebygol o ddilyn y cyngor yw’r rheini sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael eu cyngor iechyd a/ neu sy’n credu mewn damcaniaethau cynllwyn.

Dyma’r rhesymau pam nad yw pobl yn cadw pellter cymdeithasol neu’n gwisgo mygydau:

  • Effaith negyddol gwneud hynny
  • Ofni y bydd eraill yn feirniadol ohonynt
  • Diffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth o’r effeithiau
  • Diffyg moddion byw
  • Credoau ynglŷn â sut y mae clefyd yn cael ei drosglwyddo
  • Eu synnwyr eu hunain o fregusrwydd
  • Teimlo, neu feddwl y byddant yn teimlo, yn anghyfforddus neu’n chwithig

Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod gofyniad cyfreithiol i gymryd y camau hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth.

Nododd yr adolygiad grwpiau penodol sy’n fwy neu’n llai tebygol o ddilyn cyngor i ddiogelu eu hunain a gellir defnyddio hyn i deilwra canllawiau a chyngor.

Ni allwn ragdybio y bydd y darganfyddiadau hyn yn berthnasol wrth symud ymlaen gan fod y dystiolaeth a adolygwyd yn gyfyngedig ac yn ymwneud â phandemigau eraill neu don gyntaf COVID-19. Cydnabyddir yn gyffredinol bod pobl yn llai tebygol o gymryd rhai o’r camau hyn i ddiogelu eu hunain â threigl amser.

Mae angen mwy o waith ar yr hyn a fydd yn annog pobl i gymryd camau diogelu trwy gydol y pandemig.

Darllenwch yr adroddiad llawn

 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00015