Jemma Rogers
Rheolwr Ymchwil a Datblygu
Ymunodd Jemma ag Ymddiriedolaeth GIG Abertawe yn 2003 wrth iddi gwblhau ei hastudiaethau MSc lle’r oedd hi’n astudio Rheoli Gofal Iechyd, ar ôl graddio o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn 2002. Fe’i penodwyd yn Reolwr Ymchwil a Datblygu yn 2004 a bellach mae ganddi 16 mlynedd o brofiad o reoli strategol a gweithredol adran ymchwil a datblygu corfforaethol y GIG gan gynnwys rheoli sawl trawsnewidiad adrannol yn dilyn ailstrwythuro sefydliadol, yn fwyaf diweddar yn dilyn sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gryfhau’r cydweithio rhwng y bwrdd iechyd â Phrifysgol Abertawe, gan wasanaethu ar amryw o bwyllgorau ymchwil ac arloesi ar y cyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd, yn arbennig sefydlu’r Cyd-bwyllgor Adolygu Astudiaeth yn 2005 sy’n parhau i weithredu fel cyd-bwyllgor allweddol yn 2020. Jemma hefyd yw Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ac mae’n gweithredu fel Cynrychiolydd Noddwyr i’r bwrdd iechyd.