Rydyn ni’n recriwtio Aelodau o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil
22 Gorffennaf
Rydyn ni’n edrych am aelodau sy’n arbenigwyr i ddod yn rhan o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil (REC) yng Nghymru. Os ydych chi’n frwd dros ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn gallu dadansoddi materion cymhleth, bod yn wrthrychol eich safbwynt a dweud eich barn, yna fe allai gwirfoddoli i ddod yn aelod o REC fod yn gyfle perffaith i chi. Fel rhan o’r pwyllgor, fe fyddwch chi’n adolygu ceisiadau ymchwil iechyd i sicrhau diogelwch a llesiant y rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a’r cyhoedd.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth aelodau arbenigol, sef unigolion sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu’r Cyngor Proffesiynau Iechyd.
Fel aelod o REC fe fyddwch chi’n cael:
- hyfforddiant a mynediad i ddigwyddiadau hyfforddi aelodau’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) (ennill pwyntiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer clinigwyr)
- gwybodaeth gynyddol ym meysydd methodoleg ac ystadegau ymchwil
- gwell dealltwriaeth o foeseg ymchwil a deddfwriaeth berthnasol
- sgiliau pwyllgor
- gwell dealltwriaeth o ehangder yr ymchwil sy’n dod i mewn i Gymru
Rôl wirfoddol ydy hon, ond telir treuliau teithio a hyfforddi, ac fe fydd angen ichi ymrwymo i fynychu o leiaf chwe chyfarfod REC llawn y flwyddyn.
Mae gwybodaeth bellach am aelodaeth o bwyllgor ar gael ar dudalen yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar ddod yn aelod o REC.
Os hoffech chi gael sgwrs ag un o’r tîm, anfonwch e-bost i hcrw.recsupport@wales.nhs.uk.