Sêl neu Farnais? Atal pydredd dannedd ymysg plant
Daeth ymchwil a gyhoeddwyd yn mis Mai 2017 i’r casgliad bod rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant yr un mor effeithiol â thriniaethau amgen drud.
Yr Athro Ivor Chestnutt o Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd oedd yn arwain yr astudiaeth Sêl neu Farnais, ar y cyd â Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bwriad yr Athro Chestnutt a’i dîm oedd darganfod a oedd posib atal pydredd ar gilddannedd parhaol cyntaf trwy ddefnyddio dwy driniaeth wahanol: selwyr rhychau (sêl) neu farnais fflworid (farnais).
Cafodd mwy nag 800 o blant eu trin fel rhan o’r treial a chael naill ai ‘sêl’ neu ‘farnais’. Aeth y plant, a oedd o gymunedau difreintiedig ar draws ardaloedd bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf, i glinig deintyddol symudol a oedd yn ymweld â’r ysgol bob chwe mis am dair blynedd.
Dywedodd yr Athro Ivor Chestnutt: “Mae ein hymchwil wedi dangos bod farnais fflworid – sy’n hawdd i’w baentio ymlaen – yn atal pydredd dannedd cystal â thriniaeth sy’n fwy anodd ac yn ddrytach. Dros y tair blynedd llwyddwyd i arbed £68.13 y plentyn yn y grŵp farnais.
“Mae’r astudiaeth wedi cynnig tystiolaeth hynod werthfawr i wasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU ac mae yna oblygiadau ar gyfer atal pydredd dannedd ledled y byd.”
Agweddau newydd o’r treial hwn a’r cyfraniad at reoliadau treialon diwygiedig
Mae Farnais Fflworid yn feddyginiaeth sydd i’w chael ar bresgripsiwn yn unig, felly roedd hyn yn golygu bod yr holl reoliadau a oedd yn berthnasol i Dreialon wedi’u Rheoli ar gyfer Cynnyrch Meddyginiaethol Ymchwiliol (CTIMP) yn berthnasol i’r treial hwn. Arweiniodd hyn at drafodaeth ddiddorol ag Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ynglŷn â rhoi protocolau CTIMP ar waith mewn clinig deintyddol symudol ar adeg pan roedd yr MHRA yn cynhyrchu ei Ddulliau Gweithredu Wedi’u Haddasu yn ôl Risg wrth fynd ati i Reoli Treialon Clinigol o Gynhyrchion Meddyginiaethol Ymchwiliol. Mae’r Athro Chestnutt yn credu y byddai trafodaethau ynglŷn â’r dull o weithredu wedi’i addasu yn ôl risg sy’n deillio o hyn yn gwneud rhedeg treial tebyg eto’n llai o faich.
Rôl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Meddai’r Athro Ivor Chestnutt : “Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod gennon ni yng Nghymru y seilwaith a’r cymorth i gynnal un o’r treialon deintyddol clinigol mwyaf i’w cynnal yn y blynyddoedd diweddar.
“Mae cymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r cyrff a oedd yn ei ragflaenu wedi bod yn hanfodol i ni allu cystadlu am y math hwn o waith, a chyflenwi astudiaeth heb ei hail ym maes treialon clinigol pragmatig yng Nghymru. Mae seilwaith ymchwil ar ffurf yr Uned Dreialon a’r cymorth ariannol ar gyfer costau ychwanegol triniaeth a chymorth gwasanaeth, a oedd yn sylweddol mewn astudiaeth fel hon, yn hanfodol.
“Fe wnaethon ni gael budd hefyd o fewnbwn nyrsys ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fu’n ein helpu ni i hel ymatebion i holiaduron y rhieni, a oedd yn bwysig er mwyn darparu sail i’r dadansoddiad o economeg iechyd a oedd yn rhan annatod o’r astudiaeth”.
Y gosodiad ar gyfer y treial oedd Cynllun Gwên - Rhaglen Wella Genedlaethol ar Iechyd y Geg i Blant. Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) a’i chydlynu gan y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 2, Mehefin 2017