Sgyrsiau Creadigol: Astudiaeth archwiliadol o ddull celfyddydol mewn iechyd o wreiddio gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwella cyfathrebu rhwng staff gofal a phobl sy'n byw â dementia
Crynodeb diwedd y prosiect
Prif Negeseuon
Bron i ddau ddegawd yn ôl, anogodd Kitwood (1997) bobl i weld y 'PERSON sydd â dementia', yn hytrach na chanolbwyntio ar y clefyd, a chyflwynodd gysyniadau personoldeb a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn gofal dementia. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn cael ei roi ar waith gan y canfuwyd bod hyfforddiant sylfaenol ar gyfer staff cartrefi gofal yn canolbwyntio ar drin â llaw, diogelwch tân ac iechyd a diogelwch, yn hytrach na deall anghenion pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sydd â dementia (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2014).
Felly, mae angen hyfforddiant i wella'r ffordd y mae staff gofal yn cyfathrebu â phreswylwyr sydd â dementia a fydd hefyd yn galluogi ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae briff ymchwil ar hyfforddiant cyfathrebu i weithwyr cartrefi gofal a gynhaliwyd ar gyfer y Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol yn dod i'r casgliad y gall hyfforddiant cyfathrebu helpu staff i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o ofal dementia, ac y gall gwelliant yn ansawdd y rhyngweithio rhwng staff a phreswylwyr arwain at welliant yn ansawdd bywyd a lles y preswylwyr (Moriarty, Kam, Coomber, Rutter a Turner, 2010). Maent hefyd yn cydnabod y dylai ymchwilwyr fod yn ymwybodol o sgiliau llythrennedd cyfyngedig o fewn y gweithlu dementia, ac felly'n cefnogi'r defnydd o arsylwi strwythuredig fel modd o werthuso effaith yr hyfforddiant.
Mae cartrefi gofal yn wynebu llawer o bwysau sy'n gwrthdaro wrth ddarparu gofal o ddydd i ddydd, a ddisgrifir yn aml fel yn canolbwyntio ar dasgau, ac er gwaethaf y bwriadau gorau, yn aml mae cwmpas cyfyngedig i staff a phreswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon gyda’i gilydd. Gall hyn fod yn ffynhonnell anhygoel o densiwn i'r gofalwyr, sy'n teimlo dan bwysau i gyflawni tasgau gofal, ond sy'n dymuno am amser i feithrin perthynas â phreswylwyr (Ward et al., 2008).
Nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yw trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru drwy ddarparu fframwaith cyfreithiol i wella llesiant y rhai sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth (Llywodraeth Cymru, 2014). Yn erbyn y cefndir hwn ac mewn ymateb i ymrwymiad i ragoriaeth gofal, ffurfiodd y prosiect hwn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a Dementia Positive i gyflwyno a gwerthuso ymyriad datblygu staff byr, a gynlluniwyd i gyfoethogi ansawdd y rhyngweithio rhwng staff gofal a phreswylwyr trwy wella sgiliau cyfathrebu. Gan gydnabod yr heriau sy'n ymwneud â hyfforddi'r gweithlu, ceisiodd y prosiect hwn ffordd newydd o wella sgiliau trwy'r celfyddydau.
Mae astudiaethau'n awgrymu bod ymyriadau celfyddydol sydd wedi'u hanelu at bobl sy'n byw â dementia hefyd o fudd i staff gofal. Mae adolygiad o gyfranogiad staff gofal dementia mewn rhaglenni celfyddydau creadigol yn dangos bod staff gofal wedi datblygu cysylltiadau personol dyfnach â phreswylwyr, a bod ganddynt ddealltwriaeth well o strategaethau cyfathrebol ac anghenion a galluoedd preswylwyr (Broome, Dening, Schneider a Brooker, 2017).
Nod y prosiect hwn felly oedd datblygu a phrofi ymyrraeth datblygu staff 'Sgyrsiau Creadigol' a oedd yn defnyddio dull celfyddydol ym maes iechyd i wella ansawdd y rhyngweithio rhwng gofalwyr a phobl sy'n byw gyda dementia.