Seibiannau byr i bobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr: archwilio canlyniadau lles a llywio datblygiad ymarfer yn y dyfodol drwy ddull Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi.
Crynodeb diwedd y prosiect
Prif Negeseuon
Mae egwylion byr yn helpu i gefnogi lles pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a'u gofalwyr di-dâl. Gall egwylion byr helpu i gynnal perthynas ofalgar. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod llawer am werth seibiannau byr yn y gymuned.
Roeddem am ddarganfod a oedd egwyl fer â chymorth yn ystod y dydd, yn y gymuned, yn helpu pobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr teuluol di-dâl i gael lles da. Roeddem hefyd eisiau darganfod a oedd y math hwn o egwyl fer yn creu mwy o werth nag y mae'n ei gostio.
Enw'r gwasanaeth cymorth dydd oedd TRIO. Yn TRIO mae grŵp bach o ddinasyddion (pobl sy'n byw â dementia) sy'n rhannu diddordebau tebyg yn cwrdd unwaith yr wythnos. Maent yn cyfarfod yng nghartref cydymaith cyflogedig sy'n hoffi'r un mathau o weithgareddau ac yn treulio amser gyda'i gilydd yn gwneud pethau yn y gymuned leol.
Gwnaethom ddefnyddio math o ddadansoddiad economaidd o'r enw Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi i weld a oedd y math hwn o egwyl fer yn darparu gwerth da am arian. Daethom o hyd i’r canlynol:
- Roedd hi'n bwysig yn y math yma o egwyl fer fod pobl yn rhannu diddordebau tebyg. Byddai'n dda pe bai opsiynau egwyl fer eraill yn paru pobl gyda'i gilydd, yn seiliedig ar ddiddordebau a rennir.
- Datblygodd perthynas ofalgar a chefnogol rhwng dinasyddion, gofalwyr di-dâl, a chymdeithion TRIO. Roedd hyn yn rhan bwysig o'r gefnogaeth ddydd a arweiniodd at ganlyniadau da.
- Adroddodd dinasyddion ganlyniadau da. Roeddent yn teimlo'n fwy cymdeithasol a hyderus ac roedd ganddynt ymdeimlad o reolaeth dros eu gweithgareddau. Dywedodd gofalwyr di-dâl eu bod wedi cael egwyl o ofalu gyda thawelwch meddwl. Roedd y berthynas ofalgar wedi cael ei chynnal.
- Roedd y lles a gynhyrchwyd i ddinasyddion, gofalwyr di-dâl a chymdeithion TRIO o werth uwch na chost darparu'r gwasanaeth, gan awgrymu ei fod yn cynnig gwerth da am arian.
- Mae angen astudiaethau yn y dyfodol sy'n edrych ar y canlyniadau a'r gwerth a grëir gan wahanol fathau o egwyl fer.