
Zoe Silsbury
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cymrodoriaethau Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru
Bywgraffiad
Mae Zoe Silsbury wedi gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 18 mlynedd fel ffisiotherapydd cyhyrysgerbydol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi cwblhau ei MSc ym Mhrifysgol Birmingham yn 2013 lle cyhoeddwyd ei thraethawd estynedig. Ers hynny, mae wedi cyflawni adolygiad cymheiriaid o ddau bapur i wahanol gyfnodolion, wedi adolygu pennod o lyfr ac wedi ymgymryd â phrosiect ymchwil drwy ei chymrodoriaeth Newydd i Ymchwil.
Yn 2022, dechreuodd Zoe swydd newydd fel y ffisiotherapydd aelodau uchaf clinigol arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi ei chynorthwyo i gwblhau’r prosiect ymchwil ac wedi bod yn cynorthwyo gyda’i ddosbarthu.