Hélena Herklots

Cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod ag ail sioe deithiol ymchwil gofal cymdeithasol i Gaerdydd

22 Mehefin

Ddydd Mawrth 13 Mehefin, cynhaliwyd ail ddigwyddiad sy’n rhoi cyfle newydd i weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ledled Cymru ddod ynghyd i drafod ymchwil gofal cymdeithasol, y tro hwn yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Mae’r gyfres o sioeau teithiol ymchwil gofal cymdeithasol, a gynhelir ar y cyd rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn rhoi llwyfan i gymheiriaid ddysgu, rhwydweithio a rhannu arfer gorau.

Ffocws y digwyddiad yng Nghaerdydd oedd gofal cymdeithasol i oedolion, a rhoddwyd pwyslais ar ymchwil i ofal cymdeithasol a chymorth i bobl hŷn. Croesawyd amrywiaeth o siaradwyr o wahanol ddisgyblaethau ac â gwahanol ddiddordebau ymchwil. 

Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Hélena Herklots CBE, a bwysleisiodd yn ei haraith agoriadol y rôl allweddol y mae ymchwil yn ei chwarae wrth ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel i bobl hŷn, a chymerodd dros 100 o gynrychiolwyr ran mewn sesiynau cyfochrog a fforymau trafod ar themâu amrywiol. 

Bu cyflwynwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, Prifysgol De Cymru, Coleg y Brenin Llundain a’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus yn trafod themâu gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), cymorth i ofalwyr di-dâl, gofalu am y person hŷn yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac iechyd meddwl, a defnyddio technoleg ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,

Mae Sioeau Teithiol Ymchwil Gofal Cymdeithasol wedi rhoi cyfle i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ddod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu gwybodaeth a dysgu gyda’i gilydd. Mae’r math hwn o gydweithio yn ein galluogi i fanteisio i’r eithaf ar waith ymchwil, yn sicrhau bod ymarferwyr yn ymgysylltu â’r gymuned ymchwil ac yn rhoi llwyfan i godi proffil ymchwil ym maes gofal cymdeithasol.”