Dr Stephanie Smits
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (2018 - 2023)
Teitl y prosiect: Understanding experience, completion and outcomes of colorectal cancer screening among participants with multi-morbidity
Bywgraffiad
Gwyddonydd Ymddygiadol yw Dr Stephanie Smits, ag arbenigedd mewn dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol. Dechreuodd ei Chymrodoriaeth Ymchwil Iechyd ym mis Hydref 2018 ac mae’n caniatáu iddi ddefnyddio ei harbenigedd gwyddor ymddygiadol i archwilio’r effaith y mae sgrinio aml-afiachedd (presenoldeb dau neu fwy o gyflyrau hirdymor) cyfranogwyr yn ei chael ar sgrinio coluddion o ran profiad, cwblhad a chanlyniadau sgrinio.
Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau cymysg i nodi strategaethau ac ymyriadau i fynd i’r afael â’r dylanwad y mae aml-afiachedd yn ei gael ar lefelau cyfranogwr sgrinio, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaeth. Yn y gorffennol, mae Stephanie wedi gweithio ar brosiectau mewn gwahanol feysydd o ymchwil canser, gan gynnwys ymwybyddiaeth o ganser a’i ganfod yn gynnar, ac mae newid ymddygiad ac anghydraddoldebau yn themâu cyffredin yn ei gwaith ymchwil.