Helen Snooks

Yr Athro Helen Snooks

Uwch Arweinydd Ymchwil

Mae’r Athro Helen Snooks yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yn yr Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae’r Athro Snooks yn arwain y thema ymchwil Gwybodeg Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth yn yr Ysgol.  Mae ar secondiad am hanner diwrnod yr wythnos i Ganolfan Cydlynu Treialon ac Astudiaethau’r Ganolfan Genedlaethol Gwerthuso Ymchwil Iechyd ym Mhrifysgol Southampton, fel Golygydd Cyfnodolyn Health Technology Assessment.

Bu’r Athro Snooks yn arwain yr Uned Treialon yn Abertawe at gofrestriad llawn gyda Chydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn dulliau gwerthuso arbrofol.  Mae ganddi brofiad eang o sicrhau grantiau, ac ymhlith y prosiectau diweddar mae hap dreialon o barafeddygon ambiwlans yn atgyfeirio pobl hŷn ar ôl iddynt gwympo;  risgiau a ragfynegir mewn gofal sylfaenol, Naloxone i’w Ddefnyddio Gartref mewn lleoliadau brys.

Mae ei phrif ddiddordebau ac arbenigedd ymchwil ym meysydd gofal brys cyn mynd i’r ysbyty a gofal heb ei drefnu, gofal sylfaenol, profiadau iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid a chymorth ymchwil.  Yn y meysydd hyn, ffocws ei gwaith yw cynllunio, dylunio a chynnal gwerthusiadau technolegau iechyd a modelau newydd cyflenwi gwasanaeth sy’n aml yn cynnwys newid rolau a gweithiau ar draws ffiniau rhwng darparwyr gwasanaeth.  Mae’r ymchwil yn gymhwysol, yn bragmataidd ac mae’n arwain at newid ac effaith ym myd go iawn polisi ac ymarfer.  Mae’n annog ac yn cefnogi cyfranogiad y cyhoedd a chleifion yn ei hymchwil er mwyn gwella perthnasedd, atebolrwydd ac ansawdd.  Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n helaeth ar gleifion, mae’n gydweithredol ac yn defnyddio dulliau cymysg i gyflawni nodau astudiaethau.

Sefydliad

Prifysgol Abertawe

Cysylltwch â Helen

E-bost

Ffôn: 01792 513 418