
Staff ymchwil i’w gweld mewn celfwaith brechu newydd
25 Gorffennaf
Mae staff o ledled cymuned ymchwil Cymru wedi cyflwyno ffotograffau a geiriau sydd i’w gweld mewn celfwaith newydd cyffrous a gomisiynwyd gan Dîm y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles ac a gefnogwyd gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cafodd y darn celf hwn, sef gludwaith yn cynnwys cannoedd o ffotograffau, ei greu gan yr arlunydd Nathan Wyburn a’i nod yw cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad y rheini sy’n gweithio ar raglen frechu COVID-19.
Dysgwch fwy yn: Tîm y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles
Credyd delwedd: Nathan Wyburn, Tîm y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.