![nyrs yn mesur pwysau gwaed i glaf](/sites/default/files/styles/large/public/2023-04/nurse_measuing_blood_pressure_for_patient.jpg?h=9af595d8&itok=biKcth5i)
Rhannwch eich barn – Strategaeth Arloesi ac Ymchwil ARCH
Mae Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) ar hyn o bryd yn datblygu Strategaeth Arloesi ac Ymchwil i nodi dull o gefnogi arloesi ac ymchwil ledled Cymru.
Hoffent glywed gennych chi ynglŷn â sut y dylent lywio eu dull o gefnogi ymchwil ac arloesi i ysgogi newid a gwella canlyniadau iechyd ar gyfer poblogaeth Cymru.
Bydd y Strategaeth yn cyd-fynd â’r Strategaeth Arloesi i Gymru a Fframwaith Cyflawni Ymchwil Glinigol y DU yn y Dyfodol, a’r Strategaethau Arloesi ac Ymchwil Partner ARCH lleol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.
I rannu eich barn a’ch syniadau ar gyfer yr uchelgais hwn ar y cyd, llenwch holiadur cyflym i helpu i gyd-ddylunio’r Strategaeth.