dyn a dynes yn sgwrsio

Strategaeth ymchwil newydd er budd cynlluniau’r DU i wella gofal diabetes

16 Mawrth

Heddiw, bu i Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a Diabetes UK lansio strategaeth ar y cyd i hyrwyddo cyfeiriad ymchwil diabetes clinigol a chymhwysol yn y DU.

Bwriad yr adroddiad yw annog ymchwil sydd yn gwella gofal ac yn cyflymu’r cynnydd tuag at driniaethau newydd ar gyfer pobl sydd yn dioddef oddi wrth diabetes neu mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr.   

Mae “Strategaeth y DU ar gyfer Ymchwil Diabetes Clinigol a Chymhwysol” wedi datblygu yn sgil trafodaethau ledled Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru rhwng grwpiau o arbenigwyr, cleifion, ymchwilwyr a chlinigwyr. Cafodd ei chynllunio i helpu cymuned ymchwil diabetes y DU i gydweithio mewn meysydd lle mae’r angen yn fawr a’r posibiliadau fwyaf addawol.

Mae hyn yn dod yn sgil  dadansoddiad cyfansawdd o ymchwil diabetes ledled y DU ac adnabod chwe maes allweddol lle nad yw’r gwasanaeth yn ymateb yn ddigonol i’r galw.

Chwe maes gwaith allweddol

O dan arweiniad Grŵp Llywio yng ngofal yr Athro Simon Heller – Athro Diabetes Clinigol ym Mhrifysgol  Sheffield, ac Arweinydd Arbenigedd Cenedlaethol mewn Diabetes ar gyfer Rhwydwaith Ymchwil Clinigol (CRN) yr NIHR -  daeth arbenigwyr ynghŷd i ddadansoddi’r data a llunio argymhellion ar gyfer canfod cyfleoedd i ysgogi a chyflymu ymchwil clinigol a chymhwysol. 

Yn dilyn hyn, cafodd yr argymhellion eu mapio yn erbyn y blaenoriaethau ymchwil a osodwyd gan bartneriaethau Sefydlu Blaenoriaethau Cynghrair James Lind a gwaith y Grwpiau Llywio Ymchwil Diabetes  i wneud yn siwr eu bod hefyd yn adlewyrchu barn y bobl sydd yn dioddef oddi wrth diabetes neu mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr.  

O ganlyniad i’r broses hon cafodd chwe maes allweddol eu hadnabod er mwyn cynyddu gweithgaredd ymchwil ac ymateb i’r anghenion sydd yn parhau i fodoli:

  • Atal diabetes math 2 a gordewdra
  • Diabetes yn ystod beichiogrwydd
  • Cyflyrau tymor hir a lluosog
  • Cyfeirio canfyddiadau ymchwil tuag at ymarfer
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd o ran diabetes
  • Cefnogi arweinwyr ymchwil y dyfodol a meithrin sgiliau arbenigol

Camau nesaf

Mae’r NIHR a Diabetes UK eisoes wedi dechrau gyrru ymlaen gyda nifer o argymhellion y strategaeth hon, gan gynnwys lansio galwad ar y cyd am raglenni o ymchwil cymhwysol fydd yn arwain at well cefnogaeth i bobl gyda diabetes. 

Hefyd, mae Rhaglen Ymchwil Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr NIHR (sef HSDR), mewn partneriaeth gyda Diabetes UK, wedi gwahodd awgrymiadau sut y gellir gwella gwasanaethau i bobl gyda diabetes math 1 a math 2. Bydd y rhaglen hon yn archwilio dulliau o uno gwasanaethau diabetes a iechyd meddwl, yn sefydlu timau i gefnogi pobl sydd yn byw gyda diabetes ac hefyd yn archwilio sut y gellir gwella gofal i’r rhai sydd yn rheoli eu diabetes wrth iddynt heneiddio.  

Dyma sylwadau’r Athro Lucy Chappell, Prif Weithredwr yr NIHR:

Mae’r strategaeth hon yn tanlinellu ystod o enghreifftiau ardderchog o’r modd y bu i ymchwil arwain at wella’r canlyniadau i bobl gyda diabetes, a‘r ffactorau sydd wedi gwneud y llwyddiant hwn yn bosibl.  

Ond mae hefyd yn dangos bod angen cyflawni rhagor o waith, megis mynd i’r afael â’r rhai sydd yn dioddef diabetes ochr yn ochr â chyflyrau hirdymor eraill, sicrhau gwell rheolaeth diabetes mewn beichiogrwydd, ymateb i anghysonderau iechyd a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau ein partneriaeth gyda Diabetes UK ac arianwyr eraill, gweithio gyda’r gymuned ymchwil er mwyn ymateb i’r heriau sydd yn wynebu pobl yn dioddef oddi wrth diabetes neu mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr."

Ychwanegodd Anna Morris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil gyda Diabetes UK:

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r strategaeth hon – strategaeth a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda’r NIHR. Mae’n tanlinellu’r gwahaniaeth trawsnewidiol y mae ymchwil clinigol a chymhwysol wedi ei wneud yn barod i ofal diabetes ac yn dwyn i’r amlwg y meysydd lle mae angen rhagor o sylw, ynghŷd ag ymroddiad Diabetes UK a’r NIHR i weithio gyda’i gilydd er mwyn cwrdd â’r gofynion sydd heb eu diwallu.  

Mae’r strategaeth yn tanlinellu meysydd lle mae’r tanfuddsoddiad amlwg yn amlygu graddfa ac effaith yr her, megis atal diabetes math 2, atal a rheoli diabetes mewn beichiogrwydd. Ein gobaith yw y bydd y gymuned ymchwilwyr ac arianwyr yn ymateb i’r her o hyrwyddo cynnydd yn y meysydd hyn.”

Mae’r Dr Goher Ayman a Rohit Patel ill dau yn byw gyda diabetes ac yn aelodau o Grŵp Llywio’r strategaeth, a dyma eu geiriau hwy:  

Mae’r agwedd gydweithredol, sydd yn dwyn ynghŷd farn pobl gyda diabetes, swyddogion proffesiynol ac ymchwilwyr gofal iechyd, wedi arwain at argymhellion pell gyrhaeddol. Ar nifer o lefelau, mae’r argymhellion hyn yn ymrwymo i wynebu’r her o sicrhau ymchwil cymhwysol, perthnasol ac effeithlon.

Rydym yn croesawu’r ffocws hanfodol ar fynd i’r afael ag anghysonderau iechyd cynyddol a mynediad at ddewisiadau gofal sydd yn gallu trawsnewid bywydau. Rydym hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth hanfodol bod yn rhaid i ymchwil adlewyrchu cymhlethdod diabetes yn y byd go iawn, gydol bywyd yr unigolyn, a bod hyn yn aml yn cynnwys cyflyrau ychwanegol eraill.

Rydym yn galw ar ymchwilwyr ac arianwyr ymchwil i ymateb i’r her o hyrwyddo buddsoddiad yn y meysydd hanfodol hyn.”