Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau arloesol i gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol

Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd edrych ar sut y gallai ymyriadau arloesol, positif gefnogi cleifion ar restrau aros llawdriniaethau yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, ynghyd â gwella’r ffordd o ddarparu gofal iechyd. Bu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru’n ei gynnal yn sgil ceisiadau oddi wrth Fyrddau Iechyd ac eraill.

Nod yr adolygiad yw helpu cleifion ar restrau aros llawdriniaethau dewisol sy’n hirach nag erioed, a darparu sail ar gyfer strategaethau a pholisi i reoli’r rhestrau hyn.

Mae aros yn hir am lawdriniaeth yn gallu effeithio’n negyddol ar gleifion y gallai deilliannau iechyd gwaeth, iechyd meddwl gwael, gwaethygiad y clefyd neu hyd yn oed marwolaeth ddod i’w rhan.

Mae COVID-19 wedi ychwanegu niferoedd at y rhestrau aros hyn, gan gynyddu’r potensial am ddeilliannau niweidiol.

Mae Byrddau Iechyd y DU wedi mabwysiadu strategaethau i fynd i’r afael â rhestrau aros llawdriniaethau sy’n cynnwys cronni adnoddau, targedu rhestrau aros a chreu ardaloedd ‘gwyrdd’ i barhau â llawdriniaethau trwy gydol y pandemig.

Gyda rhestrau aros yn ddifrifol uchel, cynhwyswyd y categorïau a ganlyn o ymyriadau yn yr adolygiad:

  • Ymyriadau ymarfer corff
  • Ymyriadau addysg
  • Ymyriadau seicolegol
  • Ymyriadau rhoi’r gorau i ysmygu
  • Ymyriadau sy’n defnyddio nifer o gydrannau ar yr un pryd (e.e. Ymarfer Corff ac Addysg)

Cynhwysodd yr adolygiad 48 o adolygiadau systematig, yn cwmpasu’r cyfnod o 2014 i 2021, gyda 23 o’r adolygiadau hyn yn ymwneud â llawdriniaethau orthopedig.  Roedd ymchwil arall yn cynnwys llawdriniaethau cardiaidd, fasgwlaidd, abdomenol ac amhenodol.  Defnyddiwyd 17 (allan o 48) o adolygiadau i lunio’r adolygiad cyflym, gan ystyried bod 3 (2 ymyrraeth ‘ymarfer corff’ ac 1 ‘seicolegol’) o ansawdd uchel.

Mae ymyriadau cyndriniaethol ymarfer corff, seicolegol a rhoi’r gorau i ysmygu o ryw fudd er nad yw, yn gyffredinol, yn bosibl mesur eu heffeithiolrwydd yn erbyn deilliannau llawfeddygol.

Mae ymyriadau addysgol yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau ond maen nhw hefyd yn gallu ychwanegu at orbryder ac effeithio ar iechyd meddwl.

Ni nodwyd unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â’r pandemig COVID-19 presennol.

Mae angen ymchwil bellach:

  • i ddeall sut y mae is-grwpiau cleifion amrywiol, yn enwedig y rheini y mae anghydraddoldeb yn effeithio arnyn nhw, yn ymateb i ymyriadau cyndriniaethol.
  • sy’n edrych ar ragnodi cymdeithasol a dulliau eraill o weithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Dylai llunwyr polisi, addysgwyr a chlinigwyr ystyried argymell bod ymyriadau o’r fath yn cael sylw yn y cwricwla ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol.

A allai’r GIG drawsffurfio cyfnodau aros fel eu bod yn gyfnodau paratoi buddiol – gan symud y pwyslais o ‘ba mor hir’ i ‘sut’ y gallai’r claf baratoi?

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00030