Pa ymyriadau neu arferion gorau sydd yna i gefnogi pobl â COVID Hir, neu gyflyrau ôl-feirysol tebyg neu gyflyrau y mae gorflinder yn eu nodweddu, i ddychwelyd i weithgareddau arferol: adolygiad cyflym

Cefndir

Mae COVID Hir yn gallu effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd a gweithgareddau dyddiol arferol pobl. Mae’r adolygiad cyflym hwn yn edrych ar ymyriadau a allai helpu pobl sydd wedi cael diagnosis o COVID Hir i ddychwelyd i weithgareddau arferol eu bywyd bob dydd, a allai gynnwys hyfforddiant, addysg, gwaith neu gyfrifoldebau gofalu. 

Nod

Nod yr astudiaeth hon yw adolygu ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi i nodi mesurau arferion gorau a allai gefnogi pobl sy’n byw â COVID Hir i ddychwelyd i’w gweithgareddau dyddiol arferol. Caiff darganfyddiadau’r astudiaeth hon eu rhannu â llunwyr polisi a chynghorwyr Llywodraeth Cymru i ddarparu sail ar gyfer cynllunio a chyflenwi gwasanaeth i bobl sy’n dioddef â COVID Hir.

Dulliau

Bu tîm yr astudiaeth yn edrych ar ymchwil flaenorol, gan ddod o hyd i 12 o symptomau cyffredin COVID Hir, yn cynnwys twymyn, myalgia (poenau yn y cyhyrau), gorflinder a swyddogaeth wybyddol ddiffygiol (e.e. ei chael yn anodd cofio, dysgu pethau newydd, canolbwyntio neu wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd bob dydd).

Daethon nhw i’r casgliad y gallai triniaethau ar gyfer cyflyrau eraill tebyg helpu pobl sy’n byw â COVID Hir neu’n gwella ohono. 

Bu’r ymchwilwyr yn edrych ar amrywiaeth o lenyddiaeth berthnasol, wedi’i chyhoeddi rhwng 2014 a 2022.

Canlyniadau

Ar y cyfan, roedd y ffynonellau gwybodaeth gwahanol yn awgrymu y dylid magu dull o weithredu wedi’i seilio ar anghenion wrth ofalu am bobl sy’n dioddef o COVID Hir. Mae awgrymiadau hefyd yn cynnwys yr angen i wneud addasiadau yn y gweithle ar gyfer pobl sy’n byw â COVID Hir, yn yr un ffordd ag y gwneir hyn ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae yna rywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod ymyriadau ar gyfer COVID Hir neu Syndrom Blinder Cronig (CFS) sydd ddim yn defnyddio meddyginiaeth yn gallu helpu i wella ansawdd bywyd, ond byddai angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn i gefnogi’r ddamcaniaeth hon.

Gellir defnyddio nifer o ffyrdd i reoli gorflinder COVID Hir, gan gynnwys therapi ymarfer corff, ysgogi nerfau gyda thrydan, therapi cwsg a chyffyrddiad. Gallai fod o fudd ysgrifennu cynlluniau hunanreoli, yn enwedig pan ddarperir neu gyflenwir cefnogaeth broffesiynol mewn grwpiau.

Roedd un astudiaeth yn edrych ar fuddion cynllun hunanreoli ysgrifenedig yn cynnwys strategaethau ymdopi egnïol ar gyfer CFS mewn bywyd bob dydd. Yn sgil yr ymyrraeth hon, roedd yna gynnydd o 18% yn nifer y cleifion a oedd yn dychwelyd i gyflogaeth ar ôl dioddef â’r cyflwr.

Effaith

Gallai canlyniadau’r arolwg hwn helpu i flaenoriaethu meysydd penodol yn y dyfodol ynghylch rheoli COVID Hir a gwella ohono.

Ymhlith yr atebion pwysig i’w hystyried mae opsiynau triniaeth sy’n canolbwyntio ar y claf (fel therapi galwedigaethol, therapi hunanreoli a therapi siarad). Mae angen gwneud addasiadau fel bod pob gweithiwr sydd dal yn dioddef o symptomau’n gallu dychwelyd i’r gwaith.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Alexandra Strong

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00042