Ambulance

Sut allwn ni sicrhau bod timau ambiwlans yn gwbl barod i ddelio ag achosion posibl o COVID-19?

9 Medi

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan PRIME Cymru’n ceisio darganfod y ffordd fwyaf effeithiol i wasanaethau ambiwlans frysbennu cleifion â symptomau posibl o COVID-19.

Dydy pob gwasanaeth ambiwlans ddim yn defnyddio’r un dulliau i asesu galwadau ac i flaenoriaethu triniaeth (brysbennu) ar gyfer cleifion COVID-19 posibl, felly gallai darganfod y dull mwyaf effeithiol gael effaith ar sut y mae gwasanaethau’n gweithio ledled y DU.

Bydd ymchwil – a ariennir trwy fenter DU-eang yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i flaenoriaethu ymchwil iechyd cyhoeddus brys COVID-19 – yn archwilio data oddi wrth y gwasanaethau ambiwlans ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, a gasglwyd pan roedd y pandemig ar ei anterth.

Y gobaith ydy y bydd canlyniadau’r astudiaeth yn helpu i ddarparu sail i wasanaethau rhag ofn y bydd ail don neu unrhyw epidemig arall yn y dyfodol.

Meddai’r Athro Alan Watkins, pen ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe:

“Bu cynnydd aruthrol ar adegau yn nifer y galwadau 999 yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae gwasanaethau ambiwlans yn defnyddio modelau gwahanol i frysbennu – neu i roi trefn ar alwadau, ond ŵyr neb fawr ddim ynglŷn â pha fodel brysbennu sy’n gweithio’n fwyaf diogel ac effeithiol yn ystod y pandemig.

“Gallai hyn o bosibl newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau ambiwlans yn gweithredu yn eu canolfannau galwadau a’r ffordd y maen nhw’n penderfynu p’un a fydd cerbyd yn cael ei anfon ai peidio, a newid arfer parafeddygon wrth gyrraedd o ran dod â phobl i mewn i’r adran achosion brys.”

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae’n wych gweld ymchwilwyr o Gymru’n derbyn arian y DU i helpu i ateb cwestiynau hanfodol ynglŷn ag arfer gorau a gofal yn ymwneud â COVID-19. Gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan yn yr ymdrech ymchwil fyd-eang i wella ein hymateb i’r pandemig yn barhaus.”

 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu Canolfan PRIME Cymru