Sut mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn bwriadu dod o hyd i atebion i ‘broblemau bywyd go iawn’ yn y pandemig
Mae’r Athro Adrian Edwards wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru. Mae’r ganolfan sydd werth £3 miliwn yn cael ei chreu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a bydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yma mae’r ymchwilydd academaidd a thad i ddau sy’n feddyg teulu yng Nghwmbrân ers 25 o flynyddoedd yn ysgrifennu am y ganolfan dystiolaeth a’r hyn y mae’n gobeithio ei gyflawni.
“Roedd hi’n dawel yn fy meddygfa dros yr haf. Roedd cleifion yn cadw draw. Doedden nhw ddim yn ceisio cymorth am yr hyn y gallech chi ei alw yn gyflyrau ‘normal’ – roedden nhw’n aros allan o’r ffordd ac yn gobeithio peidio â dal COVID. Darlun gwahanol iawn i’r hyn yr oedd fy nghydweithwyr mewn ysbytai yn ei brofi – cynnydd dyddiol yn nifer y cleifion gofal critigol a staff yn gweithio sifftiau dwbl.
Roedd hyn, i mi, yn golygu y byddai yna ôl-groniad ar ryw bwynt - pobl â symptomau canser a’r rhai hynny y mae angen gwiriadau ar gyflyrau hirdymor fel diabetes, asthma ac epilepsi arnynt.
Yr hyn y byddem ni ei angen, meddyliais, oedd ffordd o reoli’r ôl-groniad hwn pan fyddai’n dod. Roedd angen modd o ddod â’r holl wybodaeth a oedd gennym at ei gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffyrdd gorau o reoli'r amrywiaeth o gyflyrau a phroblemau, yn gyflym ac yn ddiogel, a'u blaenoriaethu.
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi’i seilio ar gysyniad tebyg, felly roeddwn yn awyddus i archwilio sut y gallai’r hyn yr ydym ni yn ei wybod yn barod o ganfyddiadau ymchwil helpu i ateb y cwestiynau allweddol ynglŷn â’r pandemig a chynorthwyo’r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wneud penderfyniadau.
Mae ymchwil yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n bywydau ni i gyd yn barod. Gallwn ni weld bod ein ffrindiau a’n perthnasau yn cael eu dosau cyntaf o’r brechlyn, ac mae hynny diolch i ymchwil.
Mae cannoedd o astudiaethau wedi’u comisiynu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn amrywiaeth o feysyddr, boed yn fesurau iechyd cyhoeddus fel gwarchod a chadw pellter cymdeithasol neu’r triniaethau gorau a gyfer COVID difrifol, neu archwilio'r ôl-effeithiau sef gorflinder, nerfau’n pigo, colli gwynt, yr hyn yr ydym ni bellach yn ei alw’n COVID hir. Mae effeithiau iechyd meddwl ar draws yr holl boblogaeth hefyd yn bwysig.
Yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw ail-adrodd pethau ac ail-ddyfeisio’r olwyn. Byddwn ni’n gallu nodi’r dystiolaeth, ac yn aml gweld ei bod wedi’i harchwilio yn rhywle arall, a dod o hyd i atebion yn gyflym iawn.
Gallai fod y dystiolaeth ddiweddaraf o ysbytai fel bod pobl yn gwybod pa driniaethau i’w rhoi neu broblemau â’r brechlynnau - yn enwedig y nifer o bobl mewn grwpiau sy’n agored i niwed sy’n derbyn y brechlyn. Neu, y mesurau iechyd cyhoeddus. Beth ydym ni’n ei wybod am warchod? A fyddwn ni’n argymell gwarchod eto mewn ychydig o wythnosau neu a fyddwn ni’n gwneud pethau mewn ffordd wahanol? Bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth i’r tua 130,000 o bobl sydd wedi bod yn gwarchod.
Mewn gwirionedd, mae llawer o gwestiynau y mae angen atebion iddyn nhw. Y prif bwrpas yw casglu’r dystiolaeth sydd ar gael yn barod. Yna gallwn ni ei chyflwyno i’r gwleidyddion ac arweinwyr y GIG a gofal cymdeithasol, ei rhoi mewn polisi ac arfer a gwneud gwahaniaeth i broblemau bywyd go iawn.
Ambell waith, bydd cwestiynau penodol i Gymru y byddwn ni angen eu hateb a sut yr ydym ni yn eu cymhwyso yn ein system gofal iechyd a chymdeithasol ond rwy’n credu mai’r prif bwynt yw ein bod ni wedi ein cysylltu’n agos â system y DU ac yn rhyngwladol. Mae gennym ni ein Cell Cyngor Technegol ein hunain yng Nghymru, sydd wedi’i chysylltu’n agos â grŵp SAGE y DU, a bydd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn ein galluogi ni i sicrhau ein bod ni’n wedi ein cysylltu’n dda â’r rhwydwaith rhyngwladol o ymchwil a’r broses o gyfuno tystiolaeth hefyd.
Mae'n debyg y byddwn ni’n gorgyffwrdd â meysydd datblygu gwasanaethau ac iechyd y cyhoedd nad ydynt yn ymwneud â COVID, a mesurau ansawdd bywyd, oherwydd er bod y pwyslais ar COVID, mae ymwybyddiaeth gynyddol, fel y gwelais o fy ngwaith fel meddyg teulu, fod yr effaith ar faterion nad ydynt yn ymwneud â COVID hefyd yn sylweddol iawn.
O eistedd yn fy meddygfa dros yr wythnosau diwethaf, rwy’n gweld ei bod yn llawer mwy prysur yn yr ail don hon o'r pandemig. Rwy'n gweld mwy o gleifion â COVID neu amheuaeth o COVID, yn ogystal â chleifion sy'n dechrau dod draw i wirio eu cyflyrau 'normal'.
Mae pobl yn mynd i mewn i’r ysbyty. Mae nifer o bobl yn dod allan o’r ysbyty ond mae ganddyn nhw broblemau parhaus ar ôl salwch COVID. Rwy'n fwyfwy ymwybodol o hynny, ond mae llawer o bobl yn marw hefyd.
Y tro hwn yn yr ail don, rwy'n gweld ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gweld, ei bod yn llawer mwy cyffredin ein bod yn adnabod pobl sydd â ffrindiau neu berthnasau sydd wedi marw o COVID, neu gymdogion sydd yn dioddef ohono ac sy'n sâl iawn. Nid oedd yn ymddangos bod hynny'n digwydd gymaint yn ôl ym mis Ebrill a mis Mai. Mae'n gyfnod anodd iawn i bawb.
I mi, mae hyn yn dangos hyd yn oed mwy yr angen am ganolfan dystiolaeth fel ein bod ni’n gallu deall beth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r problemau. Mae’n her fawr ond dyma’r ffordd iawn o’i wneud, yn fy marn i.
Bydd yr ychydig wythnosau cyntaf yn y swydd yn hollbwysig ac rwyf eisiau ddechrau ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, yn amlwg Llywodraeth Cymru, arweinwyr a staff y GIG a gofal cymdeithasol ond hefyd â chleifion a'r cyhoedd. Gyda'n gilydd mae angen i ni bennu a blaenoriaethu'r cwestiynau y mae angen eu hateb.
Rydym ni i gyd eisiau dod trwy'r pandemig a gweld sut beth yw bywyd ar yr ochr arall. Gall ymchwil a thystiolaeth roi'r gobaith hwnnw inni y mae ei angen arnom ni i gyd ar hyn o bryd."
Cyhoeddwyd yr erthygl hon hefyd yn y Western Mail ar 1 Chwefror 2021.