Mae mam wedi ailuno â phlentyn.

Sut mae plant yn dychwelyd adref o'u gofal yn cael eu haduno â'u rhieni?

Ydych chi'n weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru? 

Mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) yn chwilio am weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yng ngwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarganfod eu barn am blant sy'n dychwelyd adref o ofal. 

Mae dychwelyd adref yn golygu unrhyw blentyn sy'n cael ei roi mewn gofal y tu allan i'w gartref, sydd wedyn yn dychwelyd i fyw gyda'i rieni. Gwerthfawrogwn fod gan rai plant Orchymyn Gofal wrth fyw gyda'u rhieni o hyd, fodd bynnag, at ddibenion yr astudiaeth hon, byddem yn cyfrif y plant hyn fel rhai sydd wedi dychwelyd adref.

Bydd yr arolwg yn gofyn i chi am yr amgylchiadau rydych chi'n meddwl bod plant sy'n dychwelyd adref o ofal i fyw gyda'u teuluoedd biolegol yn gweithio'n llwyddiannus a beth rydych chi'n teimlo yw'r rhwystrau i lwyddo. Bydd hefyd yn gofyn ichi am unrhyw bractisau a ddefnyddir yn eich awdurdod lleol i gefnogi plant i ddychwelyd adref, pa mor effeithiol yw’r arferion hyn, a sut y gellid eu gwella. 

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan CASCADE neu e-bostiwch Dr Nell Warner.