people_working_on_a_collage_together

Sut y gwnaeth rhwydwaith ENRICH ein helpu i gyrraedd y gymuned cartrefi gofal

Mae prosiect ymchwil sy'n edrych ar safbwyntiau rhyng-genedlaethau ar newid hinsawdd, wedi dweud mai ENRICH Cymru sydd wedi eu helpu i gysylltu â chartrefi gofal ledled Cymru - gan sicrhau bod lleisiau'r genhedlaeth hŷn yn cael eu cynnwys.

Lleisiau rhyng-genedlaethau

Roedd yr astudiaeth OPTIC gychwynnol, a ariannwyd drwy'r Rhaglen Ymchwil Gymdeithasol, Ymddygiad a Dylunio Heneiddio'n Iach (SBDRP), a ariannwyd gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) ac a gefnogwyd gan CADR, yn archwilio materion bob dydd sy'n effeithio ar bobl hŷn ac iau o ganlyniad i newid hinsawdd trwy gyfres o weithdai. Cafodd y canlyniadau eu casglu a'u hail-adrodd wedyn mewn llyfr comic wedi'i ddarlunio gan Laura Sorvala.

Prosiect ymchwil newid hinsawdd

Mae'r prosiect ymchwil hwn wedi esblygu ers hynny ac ar hyn o bryd mae'r tîm ymchwil yn datblygu pecyn gweithgareddau rhyng-genedlaethau a allai gynnwys gemau, llythyrau templed i'ch AS, syniadau gwersi, a phynciau i ddechrau sgwrs i'w rhannu ag ysgolion, cartrefi gofal, grwpiau cymunedol, llyfrgelloedd, amgueddfeydd yn ogystal â llunwyr polisi allweddol.

Ymgysylltu â chartrefi gofal mewn ymchwil

Roedd y tîm ymchwil am sicrhau bod gwahanol genedlaethau yn cael eu cynnwys, a bod pob llais yn cael ei glywed felly bu'n gweithio gydag ENRICH Cymru i'w cysylltu â thri chartref gofal, Gofal Haulfryn, Cartref Gofal Ysguborwen a Chartref Gofal Llys Cyncoed.

Mae'r tîm wedi bod yn cynnal sesiynau syniadau gydag ysgolion, cartrefi gofal a grwpiau eraill sydd â diddordeb drwy gydol y gwanwyn, ac maent bellach yn creu pecyn prototeip o weithgareddau. Bydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu adborth gan blant a phreswylwyr cartrefi gofal yn yr hydref cyn i'r pecyn terfynol gael ei ddylunio.

Wrth arwain y prosiect, dywedodd Dr Merryn Thomas: "Mae'n hanfodol deall safbwyntiau pobl hŷn a phobl iau ar newid hinsawdd, fel y gellir llunio a rheoli amgylcheddau byw, gweithio a hamdden yn effeithiol ar gyfer iechyd, lles a chynaliadwyedd yn y dyfodol.

"Ni allem fod wedi symud ymlaen i'r cam nesaf hwn heb gymorth ENRICH Cymru.

"Weithiau mae pobl hŷn yn cael eu disgrifio fel rhai nad ydyn nhw’n poeni cymaint am newid hinsawdd, ond dydy hynny ddim wedi bod yn wir yn ein hymchwil, ac rydyn ni wedi gweld llawer o undod rhwng grwpiau oedran yn ein hymchwil.

"Rydyn ni wedi gweld perthynas hyfryd yn ffynnu. Er enghraifft, roedd un bachgen Blwyddyn 6 (deg oed) yn eistedd ac yn siarad â phreswylydd cartref gofal am dros awr am newid hinsawdd a dysgu o brofiadau mwyngloddio glo a'r Ail Ryfel Byd.

Dywedodd rheolwr ymchwil ENRICH Cymru, Dr Deb Morgan: "Dyma ein bara menyn, nid yn unig yn cefnogi ymchwilwyr yn eu gwaith ond hefyd yn eu cysylltu â phobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.

"Mae'r math yma o weithgaredd yn cyfoethogi bywydau'r trigolion; maen nhw’n dangos pa mor bwysig yw eu safbwyntiau ond hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs â phobl newydd o wahanol oedrannau a chefndiroedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y pecyn gweithgareddau rhyng-genedlaethau yn datblygu a'r sgyrsiau am newid hinsawdd yn parhau."

Mae Merryn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn Abertawe (Aled Singleton, Tavi Murray ym maes Daearyddiaeth; Deborah Morgan, Aelwyn Williams ym maes Iechyd; Carol Maddock ym maes Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg) ac Aberystwyth (Charles Musselwhite, Seicoleg). 

Gellir lawrlwytho Comic yr Hinsawdd dwyieithog am ddim o www.climatecomic.co.uk.

I gymryd rhan yn y pecyn gweithgareddau rhyng-genedlaethau, cysylltwch â optic@swansea.ac.uk neu i gael gwybod mwy am ENRICH Cymru, anfonwch e-bost atom yma.