Woman colouring in the word Research

Swydd wag: Cydlynydd Ymgyrchoedd ac Ymgysylltu

29 Mehefin

Sefydliad: Canolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Gofal a Iechyd Cymru

Cytundeb: Cyfnod penodol hyd fis Mehefin 2022

Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)

Cyflog: £24,907 - £30,615

Lleoliad: Caerdydd

Dyddiad olaf derbyn ceisiadau: 11 Gorffennaf 2021

Rydym yn falch o r ffaith bod gennym gyfle cyffrous i wahodd ceisiadau am swydd Cydlynydd Ymgyrchoedd ac Ymgysylltu i ymuno â’r Tïm Cyfathrebu yng Nghanolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Gofal a Iechyd Cymru.

Mae’r Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi yn rhan o Ymchwil Gofal a Iechyd Cymru, yn cael ei ariannu gan Adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru ac yn gweithio i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i hyrwyddo, cefnogi a darparu trosolwg cyffredinol dros iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi’r Rheolwr Ymgyrchoedd ac Ymgysylltu yn y dasg o drefnu a chyflawni ymgyrchoedd a digwyddiadau strategol gyda’r cyhoedd. Bydd yn ofynnol i chi fod â phrofiad mewn trefnu digwyddiadau, cyflawni ymgyrchoedd ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid, er mwyn eu galluogi i weithio’n greadigol a chydweithredol er codi ymwybyddiaeth o Ymchwil Gofal a Iechyd yng Nghymru ac apelio at gynulleidfaoedd newydd i gymryd rhan mewn ymchwil.

Mae’r gallu i siarad Cymraed yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Cymraeg fel ei gilydd ymgeisio.