Swyddog Cyfathrebu, CARE
Mae rôl gyfathrebu gyffrous newydd wedi codi i ymuno â Chanolfan Ymchwil newydd ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Byddwch yn creu, yn rheoli ac yn cyflwyno strategaeth gyfathrebu ac yn cynllunio a datblygu cynnwys a negeseuon deniadol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys gwefan, mewnrwyd a phlatfformau digidol a chylchlythyrau eraill.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a meithrin perthynas eithriadol, profiad diamheuol o greu cynnwys a deunydd cyfathrebu digidol effeithiol, a’r gallu i reoli systemau rheoli cynnwys. Byddwch yn gallu dehongli gwybodaeth gymhleth a'i chyfleu'n effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Byddwch yn cefnogi CARE a'i ymchwilwyr gyda chyfathrebiadau a digwyddiadau i hyrwyddo gwaith y Ganolfan gan ddarparu cyngor, arweiniad, a chefnogaeth, ac arwain ar brosiectau yn y maes hwn. Bydd hyn yn cynnwys datblygu digwyddiadau’n gyfannol, o gael gafael ar siaradwyr a gwneud trefniadau i hyrwyddo digwyddiadau, darparu ar y diwrnod a gwerthuso effaith y digwyddiadau. Bydd gweinyddwr CARE yn gallu cefnogi gweinyddu digwyddiadau.
Byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw cynnwys a’i adolygu i sicrhau ei gywirdeb, ei gysondeb a'i effeithiolrwydd, a byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno cynnwys a nodweddion newydd yn ôl yr angen. Byddwch yn ymchwilio'n rhagweithiol i anghenion cwsmeriaid, gan ddefnyddio'ch canfyddiadau i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu cynnwys sy'n cael effaith ac sy’n effeithiol.
Bydd disgwyl i chi sicrhau bod yr holl gyfathrebu ac ymgysylltu cysylltiedig yn cael eu targedu i adlewyrchu anghenion y gynulleidfa ac arferion defnyddio gwybodaeth a’u bod yn amserol ac wedi’u cynllunio’n dda ac yn adweithiol yn unol â’r cynllun cyfathrebu.
17798BR