Swyddog Cynnwys y Cyhoedd - Prifysgol Caerdydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Ariennir SCALE gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru, a chaiff ei lansio ym mis Ebrill 2025 gyda’r nod o harneisio potensial deallusrwydd artiffisial i fynd i’r afael â heriau ym maes gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. Mae SCALE yn gydweithrediad rhyngddisgyblaethol gwirioneddol rhwng yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a'r Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) (y ddwy yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol).
Yn rhan o’r swydd hon, byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad ar gynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid (gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol unigol, awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector a phobl â phrofiadau bywyd) i’r staff a’r myfyrwyr sy’n gweithio yn SCALE a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn ehangach. Bydd eich arbenigedd a'ch gwaith yn galluogi strategaeth ymchwil SCALE, gan gynnwys gweithrediadau SCALE a’i cheisiadau am gyllid ymchwil, i adlewyrchu profiadau bywyd mewn ffordd ystyrlon. Efallai y cewch gyfle hefyd i weithio ar brosiectau unigol sy’n cynnwys y rhai â phrofiad bywyd ac ymarferwyr, gan gynnwys ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu yn SCALE. Byddwch yn cynghori ac yn cefnogi’r gwaith o rannu canfyddiadau ymchwil gyda phobl â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol, ymarferwyr a'r cyhoedd.
19983BR