Swyddog Gweinyddol, Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol, i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr a phroffesiynol i WCRC. Dylai ymgeiswyr fod yn hyderus mewn aml-dasgau, blaenoriaethu llwyth gwaith a gwasanaethu cyfarfodydd tra'n meddu ar sgiliau trefnu cryf.
Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, proffesiynol i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) o fewn yr Is-adran Canser a Geneteg. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda staff y Ganolfan a phartneriaid allweddol ledled Cymru a’r DU, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: adrannau eraill o fewn Prifysgol Caerdydd, ymchwilwyr academaidd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, grŵp cynnwys cleifion a’r cyhoedd, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), y GIG, elusennau canser a sefydliadau ymchwil eraill.
20297BR