Dr Wahida Kent

Adeiladu systemau cymorth cryfach ar gyfer gofalwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig di-dâl

Mae ymchwil a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi dangos bod teuluoedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig, sy'n gofalu am blant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau ffurfiol oherwydd rhagdybiaethau anghywir a wneir gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Cynhaliodd Dr Wahida Kent, Uwch Ddarlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, astudiaeth i ddeall profiadau ac anghenion byw gofalwyr sy'n gofalu am blant Du a Lleiafrifoedd Ethnig sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, ac archwilio'r credoau a'r profiadau am y teuluoedd hyn gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw, mewn ymgais i adeiladu systemau cymorth cryfach.

Yn ôl y Cyfrifiad 2021, adroddir bod bron i 18,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru o’r Gymuned Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.

Dywedodd Dr Kent:  "Pan edrychais ar y llenyddiaeth academaidd, roedd diffyg llais gan y grŵp yma o deuluoedd.  Nod fy ymchwil oedd mynd i'r afael â'r bwlch trwy gyfweliadau gyda rhieni o deuluoedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig, gyda phlant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, a hefyd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny.

"Dangosodd fy ymchwil bod teuluoedd plant Du a Lleiafrifoedd Ethnig, sydd â chyflyrau cyfyngu ar fywyd, yn gyffredinol yn ei chael yn ddefnyddiol i gael cymorth ffurfiol a'u bod yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda'r ymarferwyr.

Fodd bynnag, tybiaethau ymarferwyr ynghylch anghenion teuluoedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig oedd eu bod yn cael cefnogaeth dda gan sefydliadau crefyddol, y cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, a chartrefi teuluoedd aml-genhedlaeth. Roedd yr holl dybiaethau hyn yn creu rhwystr i'r teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau ffurfiol." 

Dywedodd Dr Kent ei bod yn ceisio meithrin capasiti ar gyfer sefydliadau a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal a'i bod yn gobeithio cael rhywfaint o effaith ar bolisi.  Ymdrinnir â hyn trwy weithio gydag asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu hyfforddiant a datblygiad gwrth-wahaniaethol a gwrth-hiliaeth, yn ogystal â gweithio'n agos gyda sefydliadau sy'n cynrychioli ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl.

Siaradodd am weithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i nodi rhwystrau y mae gweithwyr proffesiynol yn eu hwynebu i gael mynediad at hyfforddiant, a llywio eu hymarfer gyda grwpiau hil lleiafrifol a datblygu adnoddau perthnasol.

Ychwanegodd:  "Rwy'n cyd-ddatblygu adnoddau hyfforddi gyda rhieni sy'n ofalwyr o deuluoedd Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, ac rwy'n gobeithio cyflwyno'r hyfforddiant ar gyfer hosbisau plant a sefydliadau eraill."

Yn 2022, bu Dr Kent yn gweithio fel rhan o dîm Prifysgol De Cymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu canllaw ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda rhieni sydd ag anableddau dysgu.

"Rwy'n teimlo'n angerddol am fy ymchwil a'r ymddiriedaeth rwyf wedi'i hennill o deuluoedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig i ddatblygu gwell gwasanaethau i'w gofalwyr di-dâl. Rwy'n meddwl ei fod yn genhadaeth gydol oes."