Tîm Astudio Brechlyn COVID-19 Rhydychen yn ennill gwobr arloesedd MediWales
22 Rhagfyr
Mae tîm Astudiaeth Brechlyn Rhydychen wedi ennill Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant, a noddir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yng Ngwobrau Arloesi MediWales eleni.
Roedd y tîm, a oedd yn cynnwys staff o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gyfrifol am sefydlu a chyflwyno treial Brechlyn COVID-19 Rhydychen ar safle Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y treial cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Drwy gyd-weithio gyda phartneriaid cenedlaethol a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol, sefydlwyd yr astudiaeth yn gyflymach nag erioed o’r blaen, gyda bron i 500 o gyfranogwyr yn cael eu recriwtio yn y bwrdd iechyd yn rhan o'r astudiaeth ryngwladol.
Derbyniodd yr Athro Sue Bale OBE y wobr yn y seremoni rithiol, a gafodd ei ffrydio'n fyw ar sianeli MediWales ar 2 Rhagfyr. Dywedodd:
"Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r cyfranogwyr a gymerodd ran yn y treial hwn, yr holl staff gofal iechyd rheng flaen, a wnaeth waith anhygoel yn dod i mewn rhwng sifftiau o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru.
"Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar ran y tîm cyfan. Ers y dechrau, rydym ni wedi gwybod mai brechlyn yw'r unig ffordd allan o'r pandemig hwn, mae'n debyg, felly mae wedi bod yn gyffrous iawn yn ogystal ag yn heriol i gynnal y treial brechu cyntaf yng Nghymru.
"Gan mai ni yw'r cyntaf, rydym ni wedi ennill sgiliau newydd ac mae ein profiadau wedi bod yn werthfawr i dreialon brechlyn COVID eraill sydd bellach yn cael eu cynnal yng Nghymru."
Dywedodd Carys Thomas, Pennaeth Polisi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch iawn o fod wedi bod yn bartner gwobrwyo yng Ngwobrau Arloesedd MediWales ar gyfer 'Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol â’r Diwydiant'. Cafwyd llawer o enghreifftiau rhagorol o ymchwil o ansawdd uchel a diolchwn i bawb wnaeth ymgeisio.
"Llongyfarchiadau mawr i enillwyr y wobr hon am gyflwyno Astudiaeth Brechlyn Rhydychen mor gyflym yng Nghymru. Mae'r tîm, a'r cyfranogwyr a recriwtiwyd i'r treial, wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol tuag at ddod o hyd i ateb parhaol i'r pandemig."
I gael gwybodaeth am enillwyr eraill y seremoni wobrwyo, ewch i wefan MediWales.